Manon Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Llenor yw '''Manon Rhys''' (ganwyd 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch...'
 
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.<ref>Tudalen Wicipedia am ''Manon Rhys'', cyrchwyd 19.8.2019</ref>
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.<ref>Tudalen Wicipedia am ''Manon Rhys'', cyrchwyd 19.8.2019</ref>


{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]

Fersiwn yn ôl 09:11, 19 Awst 2019

Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, y bardd, a'r dramodydd James Kitchener Davies.

Bywgraffiad

Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, ac Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn a mynychodd Ysgol Glan Clwyd Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion. Mae ei chysylltiad â Uwchgwyrfai yn hanu o'r ffaith y bu hi â'i gŵr cyntaf, Richard Morris Jones y darlledwr, fyw am gyfnod sylweddol yn nhŷ Dol Meredydd, plwyf Llandwrog.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda Neb Ond Ni; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.[1]


Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wicipedia am Manon Rhys, cyrchwyd 19.8.2019