Edgar Christian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Mae '''Edgar Vernon Christian''' (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn. | Mae '''Edgar Vernon Christian''' (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn. | ||
Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol | Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoawl yn Folkestone cyn fynd i ysgol fonedd Coleg Dofr yn Swydd Caint ym 1924. Yr oedd ei deulu wedi symud i [[Bron Dirion|Fron Dirion]] ym [[Brynaerau|Mrynaerau]] ger [[Pontlyfni]] rai blynyddoedd ynghynt ym 1919 a threuliodd wyliau ysgol felly yn [[Uwchgwyrfai]]. | ||
Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael ei gadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r bosibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>Y | Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael ei gadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r bosibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>Y prif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia a gwefan Cow Boy Song [http://www.cowboysong.com/christian/dontblame.html].</ref> | ||
Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth | Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohono mewn llyfr, ''Unflinching'', sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.<ref>Edgar Christian, ''Unflinching: A Diary of Tragic Adventure'' (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)</ref> Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams a hanai o Glynnog Fawr yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 21:47, 13 Awst 2019
Mae Edgar Vernon Christian (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.
Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoawl yn Folkestone cyn fynd i ysgol fonedd Coleg Dofr yn Swydd Caint ym 1924. Yr oedd ei deulu wedi symud i Fron Dirion ym Mrynaerau ger Pontlyfni rai blynyddoedd ynghynt ym 1919 a threuliodd wyliau ysgol felly yn Uwchgwyrfai.
Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael ei gadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r bosibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.[1]
Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohono mewn llyfr, Unflinching, sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.[2] Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams a hanai o Glynnog Fawr yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.[3]