Pont Lyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]]. | Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]]. | ||
Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au | Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post ([[Tafarn y Boar's Head]] gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref> Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref> Un bwa oedd iddi. Roedd carreg yn nodi blwyddyn ei hagor yn 1777 arni,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.<ref>Archifdy Caernarfon XPE/28/131</ref> Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur: | ||
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]] | [[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]] | ||
[[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]] | [[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]] |
Fersiwn yn ôl 14:46, 21 Gorffennaf 2019
Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.
Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post (Tafarn y Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[1] Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[2] Un bwa oedd iddi. Roedd carreg yn nodi blwyddyn ei hagor yn 1777 arni,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.[3] Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:
Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:
Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw Pont glòs odiaeth pont glws ydyw Pont ar li Lyfni liw Pont ddeil ond dŵr dyliw."
J. Hughes, Saer Melina Carnarvon 1777