Ystad y Faenol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ystad y Faenol''' wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi Uwchgwyrfai hefyd yn eido i'rystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddi-etifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad.
Roedd '''Ystad y Faenol''' wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi [[Uwchgwyrfai]] hefyd yn eido i'r ystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddietifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad. Nid oedd defnydd gan y Goron o ystad mor bellenig o'u safbwynt nhw, ond fel gwobr i anrhydeddu rhyw was ffyddlon neu'i gilydd, ac yn y man, John Smith, o Tedworth, Swydd Southampton, gafodd y wobr honno. Fel perchnogion o bell am flynyddoedd lawer cyn symud i blas y Faenol, ychydig o newid a fu i'r ystad.
 
Mae mapiau ac arolwg o'r ystad o 1777-8 yn dangos yn glir pa diroedd oedd yn perthyn i'r ystad. Yn ogystal â llawer o dir o gwmpas yr ystad, roedd maenor Dinorwig, a thiroedd bur helaeth yn Llŷn - yn cynnwys hanner Nant Gwytheyrn, a thir ym mhob plwyf yn Uwchgwyrfai. Rhestrir isod enwau'r ffermydd yn Uwchgwyrfai - llawer ohonynt, sef tiroedd [[Plas Dinas]] wedi dod i feddiant yr ystad trwy briodas mam Syr William Williams, un o Fwcleiod Baron Hill, Biwmares, oedd yn berchen ar y tiroedd hynny.





Fersiwn yn ôl 09:57, 21 Gorffennaf 2019

Roedd Ystad y Faenol wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi Uwchgwyrfai hefyd yn eido i'r ystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddietifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad. Nid oedd defnydd gan y Goron o ystad mor bellenig o'u safbwynt nhw, ond fel gwobr i anrhydeddu rhyw was ffyddlon neu'i gilydd, ac yn y man, John Smith, o Tedworth, Swydd Southampton, gafodd y wobr honno. Fel perchnogion o bell am flynyddoedd lawer cyn symud i blas y Faenol, ychydig o newid a fu i'r ystad.

Mae mapiau ac arolwg o'r ystad o 1777-8 yn dangos yn glir pa diroedd oedd yn perthyn i'r ystad. Yn ogystal â llawer o dir o gwmpas yr ystad, roedd maenor Dinorwig, a thiroedd bur helaeth yn Llŷn - yn cynnwys hanner Nant Gwytheyrn, a thir ym mhob plwyf yn Uwchgwyrfai. Rhestrir isod enwau'r ffermydd yn Uwchgwyrfai - llawer ohonynt, sef tiroedd Plas Dinas wedi dod i feddiant yr ystad trwy briodas mam Syr William Williams, un o Fwcleiod Baron Hill, Biwmares, oedd yn berchen ar y tiroedd hynny.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau