Plas Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Plas Tryfan''' neu'r Tryfan Mawr yn dŷ neu blasty ar gyrrion plwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]] ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o bentrefan fodern [[Maestryfan]]. Bu'n gartref i deulu Grifffiths, ac roedd gwraig y plas yn y 1650au, Dorti (neu Dorothy) Griffiths, er yn aelod o'r bonedd, yn uchel ei chloch ac mewn trafferth gyda'r awdurdodau am ffraeo.
==Yr adeilad==
'''Plas Tryfan''' neu'r Tryfan Mawr yn dŷ neu blasty ar gyrrion plwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]] ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o bentrefan fodern [[Maestryfan]]. Mae darn hynaf y tŷ'n dyddio'n ôl i'r 17g, ond y rhan fwyaf o'r adeilad presennol wedi ei godi yn hwyr yn y 18g.<ref>Gwefan Coflein [https://www.coflein.gov.uk/en/site/16916/details/tryfan-mawr-tryfan-bach], cyrchwyd 8.7.2019</ref> Mae plac dyddiedig 1785 ar wal y tŷ ac er ei fod wedi ei ailosod, dichon fod y dyddiad yn dynodi amser yr ailgodi gan John Griffith.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.185</ref> Bu tân mawr ac angeuol yno ym 2017 a ddinistriodd rai nodweddion.


Roedd [[Ystad Tryfan|ystad y Tryfan Mawr]] yn cynnwys Tryfan ei hun a'r ffermydd islaw'r plwyf, yn cynnwys Dolydd-irion yn y [[Dolydd]]. Bu'n gartref i deulu Williams wedi i deulu Griffiths fynd o'r plas. Er bod Robert Williams yn ffermwr a chigydd o feddygon yn y 20g cynnar a sonnir o hyd am "Ddoctor Tryfan". Roedd Dr William Edward Williams, disgynnydd olaf y teulu, yn feddyg tua Wrecsam.
==Teulu Griffith==
Sylfaenydd teulu Griffith yn y Tryafn oedd John Gruffydd, o Fadryn Isaf, plwyf Llandudwen ym Mhen Llŷn. Dichon i ail fab John Gruffydd, Madryn Isaf briodi Dorothy, etifeddes yr ystad. Priododd eu mab John Griffith ag Elisabeth, merch [[Pengwern]] ym mhlwyf [[Llanwnda]] gerllaw ac, wedi ddi hi fawr, priododd eilwaith, efo Dorothy, merch Robert Wynn o blwyf Penllech. Roedd Dorti (neu Dorothy) Griffith, er yn aelod o'r bonedd, yn uchel ei chloch ac mewn trafferth gyda'r awdurdodau am ffraeo. Cawsant fab, Owen, ac yntau'n priodi Lowri, merch Bryn Felin, Llanystumdwy. Cafwyd yr uniad hwnnw nifer o blant, gyda'r mab hynaf, John, a anwyd ym 1691, yn dad i Owen arall, ac yn daid i John Griffith a oedd yn uchel siryf Sir Gaernarfon ym 1786.Er i hwnnw gael wyth o blant, nid yw'n hysbys bod mwy nag un wedi priodi. Owen Griffith (1789-1865) oedd hwnnw. Priododd berthynas agos iddo, Ann Price o'r Wern, Llandegfan, ond ymddengys mai un ferch a aned iddynt, gan fod Ann yn marw yn 30 oed. Ann oedd y ferch honno a hi etifeddodd eiddo'r teulu.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.160, 240, 243.</ref> Yn y man, gwerthwyd Tryfan a'i droedd i deulu Williams.


{{eginyn}}
==Teulu Williams==
Roedd [[Ystad Tryfan|ystad y Tryfan Mawr]] yn cynnwys Tryfan ei hun a nifer o ffermydd yn y gymdogaeth, yn cynnwys Dolydd-irion yn y [[Dolydd]]. Bu'n gartref i deulu Williams wedi i deulu Griffith fynd o'r plas. Er bod Robert Williams yn ffermwr a chigydd, daeth y teulu'n enwog am fod ohonynt un wedi mynd yn feddyg yn y 20g cynnar a sonnir o hyd am "Ddoctor Tryfan". Roedd Dr William Edward Williams, disgynnydd olaf y teulu, yn feddyg tua Wrecsam.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/3881</ref>
 
==Ystad Tryfan==
Mae cofnod o faint Ystad Tryfan pan oedd yn eiddo i Owen Griffith tua 1840 ar gael y yn y rhaniad degwm. Roedd yr ystad yn sylweddol, rhyw 354 erw. Roedd tua 159 erw'n cael eu ffermio gan Owen Griffith ei hun, a [[Ffatri Tryfan]] oedd yn rhan o'r ystad ac yn cael ei weithio ganddo.Er bod yr ystad ar y ffin â Llanwnda, roedd yr holl dir ym mhlwyf Llandwrog, sydd yn tueddu awgrymu y gallai'r ystad wedi cadw ei ffiniau ers y Canol Oesodd heb newid llawer.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog.</ref>
 
Dyma restr o holl eiddo Ystad Tryfan ym 1840:
*Bryngwyn
*Cae Haidd Bach
*Tryfan Mawr
*Gerlan y Cyll
*Cae Haidd Mawr
*Ffatri yn cynnwys 18 erw
*[[Llain Fadyn]]
*Beudy Newydd
*Tŷ Hen
*Tafarn Dywyrch
*Pen-y-bont
*Tyddyn Madyn
*[[Dolydd]]
*2 fwthyn i'r tlodion


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 09:52, 8 Gorffennaf 2019

Yr adeilad

Plas Tryfan neu'r Tryfan Mawr yn dŷ neu blasty ar gyrrion plwyfi Llandwrog a Llanwnda ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o bentrefan fodern Maestryfan. Mae darn hynaf y tŷ'n dyddio'n ôl i'r 17g, ond y rhan fwyaf o'r adeilad presennol wedi ei godi yn hwyr yn y 18g.[1] Mae plac dyddiedig 1785 ar wal y tŷ ac er ei fod wedi ei ailosod, dichon fod y dyddiad yn dynodi amser yr ailgodi gan John Griffith.[2] Bu tân mawr ac angeuol yno ym 2017 a ddinistriodd rai nodweddion.

Teulu Griffith

Sylfaenydd teulu Griffith yn y Tryafn oedd John Gruffydd, o Fadryn Isaf, plwyf Llandudwen ym Mhen Llŷn. Dichon i ail fab John Gruffydd, Madryn Isaf briodi Dorothy, etifeddes yr ystad. Priododd eu mab John Griffith ag Elisabeth, merch Pengwern ym mhlwyf Llanwnda gerllaw ac, wedi ddi hi fawr, priododd eilwaith, efo Dorothy, merch Robert Wynn o blwyf Penllech. Roedd Dorti (neu Dorothy) Griffith, er yn aelod o'r bonedd, yn uchel ei chloch ac mewn trafferth gyda'r awdurdodau am ffraeo. Cawsant fab, Owen, ac yntau'n priodi Lowri, merch Bryn Felin, Llanystumdwy. Cafwyd yr uniad hwnnw nifer o blant, gyda'r mab hynaf, John, a anwyd ym 1691, yn dad i Owen arall, ac yn daid i John Griffith a oedd yn uchel siryf Sir Gaernarfon ym 1786.Er i hwnnw gael wyth o blant, nid yw'n hysbys bod mwy nag un wedi priodi. Owen Griffith (1789-1865) oedd hwnnw. Priododd berthynas agos iddo, Ann Price o'r Wern, Llandegfan, ond ymddengys mai un ferch a aned iddynt, gan fod Ann yn marw yn 30 oed. Ann oedd y ferch honno a hi etifeddodd eiddo'r teulu.[3] Yn y man, gwerthwyd Tryfan a'i droedd i deulu Williams.

Teulu Williams

Roedd ystad y Tryfan Mawr yn cynnwys Tryfan ei hun a nifer o ffermydd yn y gymdogaeth, yn cynnwys Dolydd-irion yn y Dolydd. Bu'n gartref i deulu Williams wedi i deulu Griffith fynd o'r plas. Er bod Robert Williams yn ffermwr a chigydd, daeth y teulu'n enwog am fod ohonynt un wedi mynd yn feddyg yn y 20g cynnar a sonnir o hyd am "Ddoctor Tryfan". Roedd Dr William Edward Williams, disgynnydd olaf y teulu, yn feddyg tua Wrecsam.[4]

Ystad Tryfan

Mae cofnod o faint Ystad Tryfan pan oedd yn eiddo i Owen Griffith tua 1840 ar gael y yn y rhaniad degwm. Roedd yr ystad yn sylweddol, rhyw 354 erw. Roedd tua 159 erw'n cael eu ffermio gan Owen Griffith ei hun, a Ffatri Tryfan oedd yn rhan o'r ystad ac yn cael ei weithio ganddo.Er bod yr ystad ar y ffin â Llanwnda, roedd yr holl dir ym mhlwyf Llandwrog, sydd yn tueddu awgrymu y gallai'r ystad wedi cadw ei ffiniau ers y Canol Oesodd heb newid llawer.[5]

Dyma restr o holl eiddo Ystad Tryfan ym 1840:

  • Bryngwyn
  • Cae Haidd Bach
  • Tryfan Mawr
  • Gerlan y Cyll
  • Cae Haidd Mawr
  • Ffatri yn cynnwys 18 erw
  • Llain Fadyn
  • Beudy Newydd
  • Tŷ Hen
  • Tafarn Dywyrch
  • Pen-y-bont
  • Tyddyn Madyn
  • Dolydd
  • 2 fwthyn i'r tlodion

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 8.7.2019
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.185
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.160, 240, 243.
  4. Archifdy Caernarfon, XM/3881
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog.