Joseph Williams, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd Joseph Williams ''(Joe Bach)'', Stryd 'Rafon, Trefor. Fo oedd prif gornedydd Seindorf Arian Trefor ac yn chwaraewr pen...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd Joseph Williams ''(Joe Bach)'', Stryd 'Rafon, Trefor.  Fo oedd prif gornedydd Seindorf Arian Trefor ac yn chwaraewr penigamp. Roedd hefyd yn dechrau cyfansoddi cerddoriaeth, emyn-donau'n bennaf, yn ystod blynyddoedd canol y 1920'au ac yn arbennig ar gyfer y band i'w chwarae. Un o'r tonau hynny oedd ''Godre'r Eifl'' sy'n dal i gael ei chwarae gan seindorf bresennol Trefor yn 2019.
Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd '''Joseph Williams''' ''(Joe Bach)'', Stryd 'Rafon, Trefor.  Fo oedd prif gornedydd [[Seindorf Arian Trefor]] ac yn chwaraewr penigamp. Roedd hefyd yn dechrau cyfansoddi cerddoriaeth, emyn-donau'n bennaf, yn ystod blynyddoedd canol y 1920'au ac yn arbennig ar gyfer y band i'w chwarae. Un o'r tonau hynny oedd ''Godre'r Eifl'' sy'n dal i gael ei chwarae gan seindorf bresennol Trefor yn 2019.


Un dydd Sadwrn ym 1928, ac yntau'n 24 oed, prynodd foto-beic newydd iddo'i hun a'r bore Llun dilynol mentrodd fynd arno i'w waith yn Chwarel Cae'r Nant yn Nant Gwrtheyrn. Ond pan yn cymryd tro cas Pont Tyddyn Drain rhwng Trefor a Llanaelhaearn, rhwygodd y teiar blaen a thaflu Joseph druan yn erbyn wal gerrig y bont. Cafodd niweidiau garw i'w ben gan nad oedd yn gwisgo helmed o unrhyw fath, fel y rhelyw o yrrwyr moto-beics y cyfnod.
Un dydd Sadwrn ym 1928, ac yntau'n 24 oed, prynodd foto-beic newydd iddo'i hun a'r bore Llun dilynol mentrodd fynd arno i'w waith yn Chwarel Cae'r Nant yn Nant Gwrtheyrn. Ond pan yn cymryd tro cas [[Pont Tyddyn Drain]] rhwng [[Trefor]] a [[Llanaelhaearn]], rhwygodd y teiar blaen a thaflu Joseph druan yn erbyn wal gerrig y bont. Cafodd niweidiau garw i'w ben gan nad oedd yn gwisgo helmed o unrhyw fath, fel y rhelyw o yrrwyr moto-beics y cyfnod.


Aed ag ef adref gan Dr. Rowlands, Llanaelhaearn, ond gwaethygodd ei gyflwr ac aed ag ef i Ysbyty'r Bwth yng Nghaernarfon lle bu farw'n ddiweddarach.
Aed ag ef adref gan Dr. Rowlands, Llanaelhaearn, ond gwaethygodd ei gyflwr ac aed ag ef i Ysbyty'r Bwth yng Nghaernarfon lle bu farw'n ddiweddarach.


Fel mae'n arfer, ac yn dal felly yn Nhrefor, pan fo aelod o'r band yn marw, fod y band i arwain yr orymdaith angladdol a chwarae ar lan y bedd. Bu'n rhaid ymarfer martsio a chwarae'r ''Dead March from Saul'' yn ddigon pell o glyw y teulu galarus ac fe wnaed hynny ger Swyddfa'r Chwarel.<ref>Cywrain Wŷr y Cyrn Arian gan Geraint Jones 1988 t.64</ref>
Fel mae'n arfer, ac yn dal felly yn Nhrefor, pan fo aelod o'r band yn marw, fod y band i arwain yr orymdaith angladdol a chwarae ar lan y bedd. Bu'n rhaid ymarfer martsio a chwarae'r ''Dead March from Saul'' yn ddigon pell o glyw y teulu galarus ac fe wnaed hynny ger Swyddfa'r Chwarel.<ref>Geraint Jones, ''Cywrain Wŷr y Cyrn Arian''(1988) t.64</ref>
 
{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Bandiau]]
[[Categori:Bandiau]]
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Cerddorion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:54, 4 Gorffennaf 2019

Cerddor ifanc dawnus dros ben oedd Joseph Williams (Joe Bach), Stryd 'Rafon, Trefor. Fo oedd prif gornedydd Seindorf Arian Trefor ac yn chwaraewr penigamp. Roedd hefyd yn dechrau cyfansoddi cerddoriaeth, emyn-donau'n bennaf, yn ystod blynyddoedd canol y 1920'au ac yn arbennig ar gyfer y band i'w chwarae. Un o'r tonau hynny oedd Godre'r Eifl sy'n dal i gael ei chwarae gan seindorf bresennol Trefor yn 2019.

Un dydd Sadwrn ym 1928, ac yntau'n 24 oed, prynodd foto-beic newydd iddo'i hun a'r bore Llun dilynol mentrodd fynd arno i'w waith yn Chwarel Cae'r Nant yn Nant Gwrtheyrn. Ond pan yn cymryd tro cas Pont Tyddyn Drain rhwng Trefor a Llanaelhaearn, rhwygodd y teiar blaen a thaflu Joseph druan yn erbyn wal gerrig y bont. Cafodd niweidiau garw i'w ben gan nad oedd yn gwisgo helmed o unrhyw fath, fel y rhelyw o yrrwyr moto-beics y cyfnod.

Aed ag ef adref gan Dr. Rowlands, Llanaelhaearn, ond gwaethygodd ei gyflwr ac aed ag ef i Ysbyty'r Bwth yng Nghaernarfon lle bu farw'n ddiweddarach.

Fel mae'n arfer, ac yn dal felly yn Nhrefor, pan fo aelod o'r band yn marw, fod y band i arwain yr orymdaith angladdol a chwarae ar lan y bedd. Bu'n rhaid ymarfer martsio a chwarae'r Dead March from Saul yn ddigon pell o glyw y teulu galarus ac fe wnaed hynny ger Swyddfa'r Chwarel.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cywrain Wŷr y Cyrn Arian(1988) t.64