Pont Wyled: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd [[W. Gilbert Williams]] o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref> | Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd [[W. Gilbert Williams]] o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref> | ||
Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei fod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen a Willam | Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei fod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen a Willam Jones, Pont Dwyled, [[Llanwnda]],saer maen - y ddau yn byw o fewn llathenni i'r bont - yn cael cytundeb i wneud y gwaith ar gost o £90.<ref>Archifdy Gwynedd XPlansB/160</ref> | ||
Roedd hen bont dros yr afon, [[Pont Wen]], lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218</ref> | Roedd hen bont dros yr afon, [[Pont Wen]], lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218</ref> |
Fersiwn yn ôl 15:20, 13 Mehefin 2019
Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd W. Gilbert Williams o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.[1]
Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei fod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen a Willam Jones, Pont Dwyled, Llanwnda,saer maen - y ddau yn byw o fewn llathenni i'r bont - yn cael cytundeb i wneud y gwaith ar gost o £90.[2]
Roedd hen bont dros yr afon, Pont Wen, lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.[3]