Pont-y-Cim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth. | Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth. | ||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
[https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300022357-pont-y-cim-clynnog#.Wjo90Mu7Lct Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings] | [https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300022357-pont-y-cim-clynnog#.Wjo90Mu7Lct Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings] |
Fersiwn yn ôl 11:23, 13 Mehefin 2019
Pont hynafol, ger Pontlyfni yw Pont-y-Cim.
Cafodd ei chodi yn 1612, a chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Mae llythyr oddi wrthi at yr ynadon wedi goroesi ymysg papurau'r Llys Chwarter. Roedd yn cynnig talu am bont yn lle'r rhyd oedd yno cyn hynny. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn afon Llyfni oddi tani. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a'r flwyddyn 1612.
Yn 1750, gorchmynnodd y Llys Chwarter yng Nghaernarfon iddi gael ei hadnewyddu a’i lledu i sicrhau fod ceffyl a throl yn gallu mynd trosti. Erbyn 1776, roedd hi'n annigonol a phenderfynwyd codi pont newydd sbon, sef Pont Lyfni yn nes at y môr.[1]
Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth.
Cyfeiriadau
Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings
Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol .
- ↑ Archifdy Caesrnsarfon XPlansB/158