Mount Hazel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Saif plasty '''Mount Hazel''' ym mhlwyf [[Llandwrog]], nid nepell o dreflan [[Tŷ'nlôn]]. ''Collfryn Bach'' oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo mai enw israddol oedd o i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain (Casglwr Trethi Caernarfon) a'i deulu'n byw yno.<ref>Archifdy Gwynedd X/Poole/3321</ref>

Cafodd Thomas Lewis bedair o ferched a dichon felly i'r plasty fynd yn wag wedi iddynt ymadael â'u cartref. Ym 1856, beth bynnag, roedd yr eiddo wedi ei osod i John Owen, amaethwr o Mount Hazel.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor B/1856/104.</ref>  
Cafodd Thomas Lewis bedair o ferched a dichon felly i'r plasty fynd yn wag wedi iddynt ymadael â'u cartref. Ym 1839, beth bynnag, roedd Hugh Jones yn denant, a'r eiddo yn perthyn i'r Parch James Hanmer Griffiths;<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/search/53.087/-4.298/19?alt=&page=1&refine=&query=Mount+Hazel&sort=score&order=desc&rows=100&county%5B%5D=Caernarfon&parish_facet%5B%5D=Llandwrog]</ref> ac erbyn 1856, roedd yr eiddo wedi ei osod i John Owen, amaethwr o Mount Hazel.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor B/1856/104.</ref>  

Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch-yng-nghyfaith Thomas Lewis),<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.176.</ref> roedd yr ystâd yn cynnwys nifer helaeth o ffermydd a gwahanol eiddo - Cae Llywarch, Mount Hazel, Ty ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Tŷ bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf [[Llandwrog]] yn unig,(ac a werthwyd i [[Ystâd Glynllifon]]<ref>Archifdy Gwynedd XD2/8572.</ref> ac eiddo hefyd ym mhlwyfi [[Llanwnda]], Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Deneio (sef Pwllheli).<ref>Archifdy Gwynedd XD2/6666.</ref>

Fersiwn yn ôl 13:28, 10 Mehefin 2019

Mount Hazel heddiw

Saif plasty Mount Hazel ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o dreflan Tŷ'nlôn. Collfryn Bach oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo mai enw israddol oedd o i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain (Casglwr Trethi Caernarfon) a'i deulu'n byw yno.[1]

Cafodd Thomas Lewis bedair o ferched a dichon felly i'r plasty fynd yn wag wedi iddynt ymadael â'u cartref. Ym 1839, beth bynnag, roedd Hugh Jones yn denant, a'r eiddo yn perthyn i'r Parch James Hanmer Griffiths;[2] ac erbyn 1856, roedd yr eiddo wedi ei osod i John Owen, amaethwr o Mount Hazel.[3]

Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch-yng-nghyfaith Thomas Lewis),[4] roedd yr ystâd yn cynnwys nifer helaeth o ffermydd a gwahanol eiddo - Cae Llywarch, Mount Hazel, Ty ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Tŷ bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf Llandwrog yn unig,(ac a werthwyd i Ystâd Glynllifon[5] ac eiddo hefyd ym mhlwyfi Llanwnda, Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Deneio (sef Pwllheli).[6]

Wedi i'r eiddo fynd yn rhan o Ystâd Glynllifon, bu llawer o ailadeiladu ac ehangu ar y plasty, rhwng 1904 a 1928.[7] Honnir fod y 10fed Arglwydd Newborough wedi ei eni yn y plasty. Erbyn heddiw, mae'r tŷ yn cael ei osod i bartïon mawr o ymwelwyr. Mae o wedi ei foderneiddio ymhellach ac mae 8 o lofftydd yno.[8]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd X/Poole/3321
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog [1]
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor B/1856/104.
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.176.
  5. Archifdy Gwynedd XD2/8572.
  6. Archifdy Gwynedd XD2/6666.
  7. Archifdy Gwynedd XD2/11807-17.
  8. Gwefan Group Accommodation.com [2], cyrchwyd 10.6.2019