William Hobley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed y Parch. '''William Hobley''' yn y [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]], Hydref 1858. Roedd yn ŵyr i [[Simon Hobley]], un o bileri'r achos yng [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Nghapel Bryn'rodyn]] ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i [[Angharad James]], Gelli-ffrydiau. | Ganed y Parch. '''William Hobley''' yn y [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]], Hydref 1858. Roedd yn ŵyr i [[Simon Hobley]], un o bileri'r achos yng [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Nghapel Bryn'rodyn]] ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i [[Angharad James]], Gelli-ffrydiau. | ||
Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg preifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i ordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno | Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg preifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i ordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno angen gweithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn i Gaernarfon yn 35 oed, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen. | ||
Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, '''Hanes Methodistiaeth Arfon''', a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924. | Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, '''Hanes Methodistiaeth Arfon''', a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924. | ||
Fersiwn yn ôl 15:21, 1 Mehefin 2019
Ganed y Parch. William Hobley yn y Gelli-ffrydiau, Nantlle, Hydref 1858. Roedd yn ŵyr i Simon Hobley, un o bileri'r achos yng Nghapel Bryn'rodyn ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i Angharad James, Gelli-ffrydiau.
Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg preifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i ordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno angen gweithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn i Gaernarfon yn 35 oed, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen.
Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, Hanes Methodistiaeth Arfon, a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924.
Bu'n farw'n ddi-briod 9 Ebrill 1933.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, t.337