Capel Bethsaida (A), Y Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Bu achos anffurfiol yn y Bontnewydd mor gynnar ag 1820 pan gychwynnodd cyfarfodydd pregethu yn y pentref gan un W. Jones, Caernarfon (a aeth wedyn i Amlwch). Rhoddwyd tir i godi'r capel cyntaf gan H. Evans, Henblas, Môn, ac fe'i agorwyd 27 Mawrth 1826, gyda'r enw Capel Bethsaida. Safai'r hen gapel hwn ar safle'r tai modern y tu draw i Res Malsters. Araf oedd yr achos i ddenu aelodau er bod llawer yn gwrando ar y pregethau a gynhelid ar bnawniau Sul. Ar ôl cynnal cysylltiad â chapel yr Annibynwyr a'i weinidog yng Nghaernarfon am flynyddoedd, newidwyd ym 1860 i rannu cyfrifoldebau â [[Capel Saron (A), Llanwnda|Chapel Saron (A)]]. Aeth yr adeilad gwreiddiol yn annigonol a gwael ac agorwyd capel newydd, sef yr adeilad presennol, ar safle amgenach ar y Lôn Groes,17 Mawrth 1868.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynol Cymru'', Cyf. 3, (Lerpwl, 1873), tt.248-9</ref> | Bu achos anffurfiol yn y Bontnewydd mor gynnar ag 1820 pan gychwynnodd cyfarfodydd pregethu yn y pentref gan un W. Jones, Caernarfon (a aeth wedyn i Amlwch). Rhoddwyd tir i godi'r capel cyntaf gan H. Evans, Henblas, Môn, ac fe'i agorwyd 27 Mawrth 1826, gyda'r enw Capel Bethsaida. Safai'r hen gapel hwn ar safle'r tai modern y tu draw i Res Malsters. Araf oedd yr achos i ddenu aelodau er bod llawer yn gwrando ar y pregethau a gynhelid ar bnawniau Sul. Ar ôl cynnal cysylltiad â chapel yr Annibynwyr a'i weinidog yng Nghaernarfon am flynyddoedd, newidwyd ym 1860 i rannu cyfrifoldebau â [[Capel Saron (A), Llanwnda|Chapel Saron (A)]]. Aeth yr adeilad gwreiddiol yn annigonol a gwael ac agorwyd capel newydd, sef yr adeilad presennol, ar safle amgenach ar y Lôn Groes,17 Mawrth 1868.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynol Cymru'', Cyf. 3, (Lerpwl, 1873), tt.248-9</ref> | ||
Roedd rhes o saith tŷ gerllaw'r capel, a elwid yn Rhes Bethsaida. Dichon i gapel Bethsaida gael ei dymchwel neu ei addasu ym 1867 pan ailadeiladwyd y rhes. Roedd y tai'n dal i sefyll fel cartrefi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ni ddymchwelwyd y rhan olaf o'r teras tan y 1990au, er nad | Roedd rhes o saith tŷ gerllaw'r capel, a elwid yn Rhes Bethsaida. Dichon i gapel Bethsaida gael ei dymchwel neu ei addasu ym 1867 pan ailadeiladwyd y rhes. Roedd y tai'n dal i sefyll fel cartrefi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ni ddymchwelwyd y rhan olaf o'r teras tan y 1990au, er nad oedd neb wedi bod yn preswylio yno ers degawdau.<ref>Robert Wyn, ''op. cit.''</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 08:30, 31 Mai 2019
Capel gwreiddiol yr Annibynwyr yn Y Bontnewydd oedd Capel Bethsaida. Safai yn y darn o'r pentref a elwir yn Lawrynys, y tu draw i Res Malsters ar ochr Llanwnda i Afon Gwyrfai.[1]
Bu achos anffurfiol yn y Bontnewydd mor gynnar ag 1820 pan gychwynnodd cyfarfodydd pregethu yn y pentref gan un W. Jones, Caernarfon (a aeth wedyn i Amlwch). Rhoddwyd tir i godi'r capel cyntaf gan H. Evans, Henblas, Môn, ac fe'i agorwyd 27 Mawrth 1826, gyda'r enw Capel Bethsaida. Safai'r hen gapel hwn ar safle'r tai modern y tu draw i Res Malsters. Araf oedd yr achos i ddenu aelodau er bod llawer yn gwrando ar y pregethau a gynhelid ar bnawniau Sul. Ar ôl cynnal cysylltiad â chapel yr Annibynwyr a'i weinidog yng Nghaernarfon am flynyddoedd, newidwyd ym 1860 i rannu cyfrifoldebau â Chapel Saron (A). Aeth yr adeilad gwreiddiol yn annigonol a gwael ac agorwyd capel newydd, sef yr adeilad presennol, ar safle amgenach ar y Lôn Groes,17 Mawrth 1868.[2]
Roedd rhes o saith tŷ gerllaw'r capel, a elwid yn Rhes Bethsaida. Dichon i gapel Bethsaida gael ei dymchwel neu ei addasu ym 1867 pan ailadeiladwyd y rhes. Roedd y tai'n dal i sefyll fel cartrefi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ni ddymchwelwyd y rhan olaf o'r teras tan y 1990au, er nad oedd neb wedi bod yn preswylio yno ers degawdau.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma