Gelli-ffrydiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gelli-ffrydiau''' (neu'n aml, ''Y Gelli'') yn un o brif ffermydd [[Dyffryn Nantlle]]. Mae'r sefyll i'r gogledd o'r ffordd rhwng [[Nantlle]] a [[Rhyd-ddu]] ger ben uchaf [[Llyn Nantlle Uchaf]]; mae nifer o nentydd bach neu ffrydiau'n rhedeg dros dir y Gelli i'r llyn. Enwyd y tŷ tyrpeg ar ôl y fferm, sef [[Tyrpeg Gelli]], a hefyd [[Pont y Gelli]] gerllaw. Saif yn awr yng nghymuned [[Llanllyfni]] ond hyd at ail hanner y 20g, bu'n rhan o blwyf [[Llandwrog]].

Mae gan Maeldaf Hen, sef [[W.R. Ambrose]] hanes yn ei lyfr am gwpl a oedd yn byw yn y Gelli yn gynnar yn y 17g.<ref>W.R. Ambrose, ''Nsant Nantlle'', (Pen-y-groes, 1872), t.61</ref>:
Ers tua 250 o flynyddoedd yn ôl, yr oedd yn byw yn y Gelliffrydiau gwpl ysmala, nodedig o gyfoethog a chybyddlyd. Enw y gŵr oedd Dafydd Gruffydd, ac enw'r wraig oedd Elin Dafydd. Yr oeddynt yn daid a nain i Angharad James. Nid oes gennym ddim i'w ddweud am yr hen ŵr, amgen na'i fod yn lled gybyddlyd, ac wedi llwyddo i gasglu cyfoeth a ystyrid yn swm mawr yn y dyddiau hyny. Dywedir ei fod, pan yn glaf yn niwedd ei oes, wedi anfon am gyfreithiwr i wneud ei ewyllys. Dechreuodd y gŵr claf enwi rhyw symiau anferth i hwn a'r llall, fel y penderfynodd y cyfreithiwr mai drysu yr oedd.  Mi a alwaf yma yfory," ebe'r cyfreithiwr, "dichon y byddwch yn well."
“Y d**** mawr,” ebe'r claf, “ai meddwl yr ydych fy mod yn wallgof ?”
Ac efe a archodd i rywun agor y drawer oedd yn yr ystafell, lle yr oedd y cyfoeth mawr y cyfeiriai ato yn gorwedd. "Wedi ei foddloni fel hyn aeth y cyfreithiwr ymlaen â'i ddyletswydd.
Ond yr oedd Elin Dafydd yn rhagori ar yr hen ŵr mewn cybydd-dra, fel y prawf yr hanes canlynol:—Un tro danfonodd boneddwr oedd yn perchen tir yn y Nant ei was yma ar neges, ac a roddodd yn ei law hanner coron, gan orchymyn iddo ei roddi i'r tlotaf a welai yn Nant Nantlle. Wedi edrych yn ddyfal am wrthrych priodol i dderbyn yr elusen yma, o'r diwedd gwelai y gwas hen wraig yn hel brigwydd ar y tân. Yr oedd ei gwisg garpiog drosti, ei hosanau yn gandryll, a'r gwas a roddodd iddi yr hanner coron, yr hon erbyn edrych, nid oedd yn neb amgen nag Elin Dafydd y Gelli.
Pan y byddai yn glawio, yn enwedig ar ôl sychder, byddai yr hen wraig yn arferol o ymdreiglo o dan fargod y tŷ, a'r dyferynau breision yn disgyn arni, a hithau yn llefain,  “llaeth a menyn imi”.
Ar y Suliau gellid ei gweld yn mynd i fyny gyda'i rhaw a'i noe rhyngddi a Llyn y Ffynonau, i droi y dwfr o'r ddyfrffos, ac i ddal y pysgod gyda'r noe. Dygwyd ami i lonaid noe i lawr i'r Gelli ar y Sabboth yn y modd hwn.
Dywedir mai i Elin Dafydd y daeth y te gyntaf erioed yn y gymydogaeth hon. Yr oedd i'r hen wraig ddwy nith yn byw yn Iwerddon, y rhai a ddaethant i ymweld â hi i'r Gelli, a chyda hwy dygasant bwys o de yn anrheg i'w modryb. Pan ddaeth amser gwneud y te, yr hen wraig, gan na wyddai pa fodd i'w goginio yn well, a'i rhoddes i gyd mewn crochan i'w ferwi, ac wedi tywallt ymaith y dwfr a gyfododd y dail ar y treinswriau coed i'w fwyta! - yr hyn a greodd gryn hwyl i'r boneddigesau, a cholled anaele ar y pwys te.
Yr oedd i'r hen gwpl ddau o feibion, un o ba rai a briododd ferch Tan y castell, Dolwyddelan, ac o'r briodas hon y deilliodd Angharad James, y wraig athrylithgar.

Ganwyd [[Angharad James]] yn y Gelli-ffrydiau, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey. Priododd dyn o Ddolwyddelan, ac yr oeddynt ymhen amser yn rhai o hynafiaid [[John Jones, Tal-y-sarn]]. Yn ddiweddarach, ym 1858, ganwyd [[William Hobley]] yno - dyn a aeth ymlaenm i fod yn weinidog Calfinaidd o bwys ac yn hanesydd ei enwad.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Caernarfon, 2012), tt.165-6.</ref>

Llinell 7: Llinell 17:
  CEFFYLAU: Caseg Wedd 5 oed, 15.3 o uchder, hwylus ym mhob gwaith; Caseg Wedd eto, 16 o uchder; Merlen 6 oed, 14.2 o uchder, hollol hwylus; Merlen Mynydd a'i Chyw; un eto yn codi'n ddwyflwydd.  

  DEFAID: Tua 1200 o DDEFAID, sef holl gorlan, yn cynnwys Mamogiaid Cryfion at groesi, Myllt parod i'r cigydd, ac Ŵyn. Dymunir galw sylw arbennig at ragoroldeb y Defaid hyn.  

  MOCH, Etc.: Hwch Dorrog.—Gwyddau, Fowls, Etc.  
  MOCH, Etc.: Hwch Dorrog; Gwyddau, Fowls, Etc.  
  OFFERYNAU: Engine Dorri Gwair; 18 o Feinciau Cneifio, Gwelleifiau, Clorian a Phwysau at bwyso gwlân, Corddwr, bron yn newydd, a Llestri Llaeth; Ger Bôn a Blaen, ynghyd â lluaws o bethau eraill rhy luosog i'w henwi.  

Fersiwn yn ôl 14:15, 17 Mai 2019

Mae Gelli-ffrydiau (neu'n aml, Y Gelli) yn un o brif ffermydd Dyffryn Nantlle. Mae'r sefyll i'r gogledd o'r ffordd rhwng Nantlle a Rhyd-ddu ger ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf; mae nifer o nentydd bach neu ffrydiau'n rhedeg dros dir y Gelli i'r llyn. Enwyd y tŷ tyrpeg ar ôl y fferm, sef Tyrpeg Gelli, a hefyd Pont y Gelli gerllaw. Saif yn awr yng nghymuned Llanllyfni ond hyd at ail hanner y 20g, bu'n rhan o blwyf Llandwrog.

Mae gan Maeldaf Hen, sef W.R. Ambrose hanes yn ei lyfr am gwpl a oedd yn byw yn y Gelli yn gynnar yn y 17g.[1]:

Ers tua 250 o flynyddoedd yn ôl, yr oedd yn byw yn y Gelliffrydiau gwpl ysmala, nodedig o gyfoethog a chybyddlyd. Enw y gŵr oedd Dafydd Gruffydd, ac enw'r wraig oedd Elin Dafydd. Yr oeddynt yn daid a nain i Angharad James. Nid oes gennym ddim i'w ddweud am yr hen ŵr, amgen na'i fod yn lled gybyddlyd, ac wedi llwyddo i gasglu cyfoeth a ystyrid yn swm mawr yn y dyddiau hyny. Dywedir ei fod, pan yn glaf yn niwedd ei oes, wedi anfon am gyfreithiwr i wneud ei ewyllys. Dechreuodd y gŵr claf enwi rhyw symiau anferth i hwn a'r llall, fel y penderfynodd y cyfreithiwr mai drysu yr oedd.  Mi a alwaf yma yfory," ebe'r cyfreithiwr, "dichon y byddwch yn well."
“Y d**** mawr,” ebe'r claf, “ai meddwl yr ydych fy mod yn wallgof ?”
Ac efe a archodd i rywun agor y drawer oedd yn yr ystafell, lle yr oedd y cyfoeth mawr y cyfeiriai ato yn gorwedd. "Wedi ei foddloni fel hyn aeth y cyfreithiwr ymlaen â'i ddyletswydd. 
Ond yr oedd Elin Dafydd yn rhagori ar yr hen ŵr mewn cybydd-dra, fel y prawf yr hanes canlynol:—Un tro danfonodd boneddwr oedd yn perchen tir yn y Nant ei was yma ar neges, ac a roddodd yn ei law hanner coron, gan orchymyn iddo ei roddi i'r tlotaf a welai yn Nant Nantlle. Wedi edrych yn ddyfal am wrthrych priodol i dderbyn yr elusen yma, o'r diwedd gwelai y gwas hen wraig yn hel brigwydd ar y tân. Yr oedd ei gwisg garpiog drosti, ei hosanau yn gandryll, a'r gwas a roddodd iddi yr hanner coron, yr hon erbyn edrych, nid oedd yn neb amgen nag Elin Dafydd y Gelli. 
Pan y byddai yn glawio, yn enwedig ar ôl sychder, byddai yr hen wraig yn arferol o ymdreiglo o dan fargod y tŷ, a'r dyferynau breision yn disgyn arni, a hithau yn llefain,  “llaeth a menyn imi”. 
Ar y Suliau gellid ei gweld yn mynd i fyny gyda'i rhaw a'i noe rhyngddi a Llyn y Ffynonau, i droi y dwfr o'r ddyfrffos, ac i ddal y pysgod gyda'r noe. Dygwyd ami i lonaid noe i lawr i'r Gelli ar y Sabboth yn y modd hwn. 
Dywedir mai i Elin Dafydd y daeth y te gyntaf erioed yn y gymydogaeth hon. Yr oedd i'r hen wraig ddwy nith yn byw yn Iwerddon, y rhai a ddaethant i ymweld â hi i'r Gelli, a chyda hwy dygasant bwys o de yn anrheg i'w modryb. Pan ddaeth amser gwneud y te, yr hen wraig, gan na wyddai pa fodd i'w goginio yn well, a'i rhoddes i gyd mewn crochan i'w ferwi, ac wedi tywallt ymaith y dwfr a gyfododd y dail ar y treinswriau coed i'w fwyta! - yr hyn a greodd gryn hwyl i'r boneddigesau, a cholled anaele ar y pwys te. 
Yr oedd i'r hen gwpl ddau o feibion, un o ba rai a briododd ferch Tan y castell, Dolwyddelan, ac o'r briodas hon y deilliodd Angharad James, y wraig athrylithgar.

Ganwyd Angharad James yn y Gelli-ffrydiau, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey. Priododd dyn o Ddolwyddelan, ac yr oeddynt ymhen amser yn rhai o hynafiaid John Jones, Tal-y-sarn. Yn ddiweddarach, ym 1858, ganwyd William Hobley yno - dyn a aeth ymlaenm i fod yn weinidog Calfinaidd o bwys ac yn hanesydd ei enwad.[2]

Fferm ddefaid ydyw'n bennaf, ac yn y gorffennol bu'n ymestyn i 465 o aceri, pan osodwyd ar rent gan y perchnogion y pryd hynny, sef Ystâd Cinmel ger Abergele.[3] Achoswyd yr ail-osod gan fod Griffith Hughes, y tenant ar y pryd, yn ymadael. Mae nodyn fod arwerthiant ei holl stoc yn cynnwys y canlynol (gan ddyfynnu'r hysbyseb gwreiddiol):[4]

GWARTHEG: 10 o Fuchod Godro Cyfloion neu yn eu llawn broffit; Heffer 3 oed vn min dropio; 4 o Fustych Dwyflwydd Rhagorol; 6 o Heffrod Dwyflwydd; Tarw Dwyflwydd. 
CEFFYLAU: Caseg Wedd 5 oed, 15.3 o uchder, hwylus ym mhob gwaith; Caseg Wedd eto, 16 o uchder; Merlen 6 oed, 14.2 o uchder, hollol hwylus; Merlen Mynydd a'i Chyw; un eto yn codi'n ddwyflwydd. 
DEFAID: Tua 1200 o DDEFAID, sef holl gorlan, yn cynnwys Mamogiaid Cryfion at groesi, Myllt parod i'r cigydd, ac Ŵyn. Dymunir galw sylw arbennig at ragoroldeb y Defaid hyn. 
MOCH, Etc.: Hwch Dorrog; Gwyddau, Fowls, Etc. 
OFFERYNAU: Engine Dorri Gwair; 18 o Feinciau Cneifio, Gwelleifiau, Clorian a Phwysau at bwyso gwlân, Corddwr, bron yn newydd, a Llestri Llaeth; Ger Bôn a Blaen, ynghyd â lluaws o bethau eraill rhy luosog i'w henwi. 

Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod Rhufeinig, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.[5]

Cysylltir y fferm hefyd â chwedl am fachgen oedd yn was fferm yno, ac a gafodd ei swyno gan y Tylwyth Teg cyn gael ei achub gan ddyn hysbys.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nsant Nantlle, (Pen-y-groes, 1872), t.61
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2012), tt.165-6.
  3. Yr Herald Cymraeg, 28 Medi 1909.
  4. Caernarvon & Denbigh herald, 24 Medi 1909
  5. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.193-4
  6. Glenda Carr, op.cit., t.165.