Plas Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Plas Llanwnda''' ar y lôn rhwng [[Dinas]], [[Llanwnda]] a [[Felinwnda]]. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel arfer fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf yn y plwyf yn y 16-18g. Yn wreiddiol yn perthyn i deulu Wynn, [[Pengwern]], cafwyd  ffrae fawr rhwng ddwy gangen y teulu ar ddechrau'r 17g, sef rhwng mab hynaf Huw Gwyn, Huw Wynn a disgynyddion Owen Meredydd (a berthynai i deulu [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Y canlyniad oedd rhannu'r ystâd rhwng y ddwy gangen, gydag un ochr yn cael plasty'r Pengwern a'r llall, Plas Llanwnda.
Saif '''Plas Llanwnda''' ar y lôn rhwng [[Dinas]], [[Llanwnda]] a [[Felinwnda]]. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel arfer fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf yn y plwyf yn y 16-18g. Yn wreiddiol yn perthyn i deulu Wynn, [[Pengwern]], cafwyd  ffrae fawr rhwng ddwy gangen y teulu ar ddechrau'r 17g, sef rhwng mab hynaf Huw Gwyn, Huw Wynn a disgynyddion Owen Meredydd (a berthynai i deulu [[Mynachdy Gwyn]], [[Clynnog Fawr]]. Y canlyniad oedd rhannu'r ystâd rhwng y ddwy gangen, gydag un ochr yn cael plasty'r Pengwern a'r llall, Plas Llanwnda.


Beth bynnag am hynny, mae'n amlwg fod Plas Llanwnda yn ei amser wedi bod yn blasty o bwys. Ym marwnad Rhisiart Cynwal i Huw Gwyn (tua 1600) mae'n nodi gwychder plastai Huw Gwyn yn Llanarmon a Llanwnda<ref>W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.4, 1942-3), tt.22-3 </ref>:
Beth bynnag am hynny, mae'n amlwg fod Plas Llanwnda yn ei amser wedi bod yn blasty o bwys. Ym marwnad Rhisiart Cynwal i Huw Gwyn (tua 1600) mae'n nodi gwychder plastai Huw Gwyn yn Llanarmon (Coed Cae Mawr) a Llanwnda<ref>W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.4, 1942-3), tt.22-3 </ref>:


  Cadwai blas crair urddas cred
  Cadwai blas crair urddas cred

Fersiwn yn ôl 18:30, 16 Mai 2019

Saif Plas Llanwnda ar y lôn rhwng Dinas, Llanwnda a Felinwnda. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel arfer fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf yn y plwyf yn y 16-18g. Yn wreiddiol yn perthyn i deulu Wynn, Pengwern, cafwyd ffrae fawr rhwng ddwy gangen y teulu ar ddechrau'r 17g, sef rhwng mab hynaf Huw Gwyn, Huw Wynn a disgynyddion Owen Meredydd (a berthynai i deulu Mynachdy Gwyn, Clynnog Fawr. Y canlyniad oedd rhannu'r ystâd rhwng y ddwy gangen, gydag un ochr yn cael plasty'r Pengwern a'r llall, Plas Llanwnda.

Beth bynnag am hynny, mae'n amlwg fod Plas Llanwnda yn ei amser wedi bod yn blasty o bwys. Ym marwnad Rhisiart Cynwal i Huw Gwyn (tua 1600) mae'n nodi gwychder plastai Huw Gwyn yn Llanarmon (Coed Cae Mawr) a Llanwnda[1]:

Cadwai blas crair urddas cred
Coed Cae Mawr, cu ymwared;
A phlas arall diball da
Llawn iawnder yn Llanwnda.  

Fe briododd yr aeres olaf Ann Wynn â'r Cadben Richard Garnons, Pant Du, tad y Richard Garnons oedd yn ymhel â'r diwydiant llechi a ddaeth yn berchennog wedyn, ac yn byw yn y plas wedyn.[2]

Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir) hyd yn ddiweddar). Dyma oedd tŷ tref a godwyd gan y Wynniaid pan oedd hi'n ffasiynol ac yn gyfleus i foneddigion gael annedd ym mhrif dref y sir.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.4, 1942-3), tt.22-3
  2. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.240
  3. W. Gilbert Williams, "Hen Deuluoedd Llanwnda. I - Y Pengwern (1500-1800)", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.4, 1942-3), t.27