Dafydd Glyn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Dafydd Glyn Jones''' (ganed 1941) yn ysgolhaig a geiriadurwr a aned ym mhentref Carmel. Mae'n arbenigwr ar ryddiaith Cymraeg Canol ac mae ei dd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 24: Llinell 24:
[[Categori:Ysgolheigion]]
[[Categori:Ysgolheigion]]
[[Categori:Cyhoeddwyr]]
[[Categori:Cyhoeddwyr]]
[[Categori:Llenorion]]

Fersiwn yn ôl 17:24, 15 Ebrill 2019

Mae Dafydd Glyn Jones (ganed 1941) yn ysgolhaig a geiriadurwr a aned ym mhentref Carmel. Mae'n arbenigwr ar ryddiaith Cymraeg Canol ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys hanesyddiaeth Cymru, Robert Jones, Rhoslan, a bywyd a gwaith Emrys ap Iwan.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Carmel ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yng Ngholeg Linacre, Rhydychen.

Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch-ddarlithydd yn yr Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Gyda'i gyd-olygydd Bruce Griffiths, golygodd Geiriadur yr Academi. Ymddeolodd o'r brifysgol yn 2000.

Llyfryddiaeth

Mae Dafydd Glyn Jones yn awdur nifer o erthyglau ar bynciau'n ymwneud â llên a hanesyddiaeth Cymru, e.e.

  • Drych yr Amseroedd (1987)
  • Gwlad y Brutiau (1990)
  • Cyfrinach Ynys Brydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)

Cyhoeddwyd detholiad o'i ysgrifau ar hanesyddiaeth Cymru yn Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001).

Yn fwy diweddar, mae o wedi mentro ar ei liwt ei hun i olygu a chyhoeddi cyfres o destunau clasurol Cymraeg dan deitl y gyfres Cyfrolau Cenedl, ymysg pethau eraill, dan argraff Dalen Newydd.

Mae o hefyd wedi dod i'r amlwg yn ystod y 2010au fel blogiwr poblogaidd a chrafog, dan y ffugenw Glyn Adda, [1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma