Appii Forum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Enw tŷ annedd digon ddi-nod yn Y Groeslon, nid nepell o Benfforddelen yw '''Appii Forum'''. Enw Lladin yw hwn, ac fe enwir fel y ma...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Adeiladau nodedig]]

Fersiwn yn ôl 14:44, 9 Ebrill 2019

Enw tŷ annedd digon ddi-nod yn Y Groeslon, nid nepell o Benfforddelen yw Appii Forum. Enw Lladin yw hwn, ac fe enwir fel y man, tua 50 milltir o Rufain, lle cyfarfu'r Apostol Paul a'r brodyr Cristionogol oedd wedi dod i'w groesau ar ei siwrne tua Rhufain.[1] Yr hanes yw fod y tŷ newydd ei godi gan un William Williams (1824-1884) ond heb gael enw pan gyfarfu nifer o deuluoedd yno i ddathlu priodas. Daeth yr enw i'w feddwl wrth i rywun holi beth oedd enw'r tŷ yn ystod y cynulliad dan sylw.

Anghywir felly yw gweld unrhyw gysylltiad hynafol â ffordd Rufeinig Sarn Helen a redai gerllaw'r safle. Ceir sôn am Appii Forum am y tro cyntaf ym 1839 yn LLyfr Treth Llandwrog, pan y'i syllefir Epiffori; weithiau ceir Appi Fferam hefyd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Actau, XXVIII, ad.15
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.14-15