Isaac Harries: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd '''Isaac Harding Harries''' (1810-c.1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] yn yr 1830au. | Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd '''Isaac Harding Harries''' (1810-c.1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] yn yr 1830au. | ||
Fe 'i anwyd yn Sir Aberteifi<ref>Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851</ref> ac fe'i godwyd i bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy, gan fynychu Athrofa Neuaddlwyd yn Henfynyw, Ceredigion. Yn ôl yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol [[Tal-y-sarn]] a [[Capel Pisgah (A), Carmel|Chapel Pisgah, Carmel]]. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn [[Capel Drws-y-coed|Nhrws-y-coed]] a [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Phen-y-groes]]. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, ''Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gymeriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros ben pobl ddiniwed am eu harian, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth." | Fe 'i anwyd yn Nroedyraur, Sir Aberteifi<ref>Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851</ref> ac fe'i godwyd i bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy, gan fynychu Athrofa Neuaddlwyd yn Henfynyw, Ceredigion. Yn ôl yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol [[Tal-y-sarn]] a [[Capel Pisgah (A), Carmel|Chapel Pisgah, Carmel]]. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn [[Capel Drws-y-coed|Nhrws-y-coed]] a [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Phen-y-groes]]. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, ''Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gymeriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros ben pobl ddiniwed am eu harian, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth." | ||
Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef ''Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831'', gan P. Evans, Caernarfon. Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddodd yr un argraffydd ''Sylwedd pregeth, ar Datguddiad 14.6. yn mha un y gosodir allan ogoniant yr Efengyl'' gan Harries.<ref>Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.</ref> | Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef ''Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831'', gan P. Evans, Caernarfon. Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddodd yr un argraffydd ''Sylwedd pregeth, ar Datguddiad 14.6. yn mha un y gosodir allan ogoniant yr Efengyl'' gan Harries.<ref>Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.</ref> |
Fersiwn yn ôl 12:55, 1 Ebrill 2019
Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Isaac Harding Harries (1810-c.1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn Nyffryn Nantlle yn yr 1830au.
Fe 'i anwyd yn Nroedyraur, Sir Aberteifi[1] ac fe'i godwyd i bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy, gan fynychu Athrofa Neuaddlwyd yn Henfynyw, Ceredigion. Yn ôl yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol Tal-y-sarn a Chapel Pisgah, Carmel. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn Nhrws-y-coed a Phen-y-groes. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gymeriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros ben pobl ddiniwed am eu harian, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth."
Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831, gan P. Evans, Caernarfon. Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddodd yr un argraffydd Sylwedd pregeth, ar Datguddiad 14.6. yn mha un y gosodir allan ogoniant yr Efengyl gan Harries.[2]
Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei Holiedydd Ysgrythurol, ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r Rhodd Mam ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Mae'n ymddangos iddo fynd i helyntion ariannol a rhaid oedd i'r aelodau roi warant drosto y telid yr arian yn ol, ond aeth pethau'n flerach, gyda ffraeo yn y capel wedi i Harries geisio pregethu ac yntau'n feddw, ac ar ôl iddo dwyllo hen ddynes trwy werthu ebol ar ei rhan deirgwaith![3] Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Serch hyn, fe'i ddisgrifir fel "gweinidog" yng Nghyfrifiad 1841, pan oedd yn byw yn Llangyfelach.[4] Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor, gan gadw ysgol yno hefyd am gyfnod. Ym 1843, cychwynnodd fisolyngwrth-Wesleaidd uniongred, Twr Gwalia, y cyhoeddwyd 12 rhifyn ohono, ac wedyn Figaro the Second, a ymddangosodd am y tro cyntaf ym mis Hydref 1843, cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol. Yn y cyfamser roedd y Wesle Bach wedi troi at yr Annibynwyr yn eu capel, a chollodd Harrioes ei gyfle olaf i fod yn weinidog Anghydffurfiol. Mae Dr Thomas Richards yn amau ei fod wedi troi at y Toriaid a'r Eglwys Sefydledig; ond yn sicr roedd wedi troi at gwmni'r tafarndai lleol. Yn 1846, ymddangosodd yn Llys Aseis y Sir ar gyhuddiad o ddwyn parsel yn cynnwys copi (prin o bosibl) o'r Beibl o dafarn y Llew Coch ym Mangor,[5] er i'r rheithgor ddatgan nad oedd ganddo achos i ymateb iddo, sef canfyddiad o "no bill".[6]
Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, yn ôl Rees a Thomas. Disgrifiodd ei hun fel "asiant", heblaw pan oedd am ennill rhyw fantais, pan gyfeiriodd ato ei hun fel "gweinidog anghydffurfiol". Ym mis Hydref, fe'i garcharwyd am flwyddyn gyda llafur caled am honni ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. Salem y Sir Gaernarfon oedd y pentref dan sylw yn ôl Harries, ond profwyd nad oedd (y pryd hynny beth bynnag) unrhyw bentref o'r fath enw yn y sir.[7]
Erbyn 1851, roedd yn byw gyda'i wraig Ann a'i ferch Elizabeth yn Bishopsgate, Llundain, lle y'i disgrifir fel traveller in cordials[8] - roedd, nid yn annisgwyl, wedi rhoi heibio'i waith fel gweinidog. Erbyn 1856, roedd o wedi troi at droseddu eto, gan ymddangos mewn Llys Ynadon yn Llundain ar gyhuddiad o ddefnyddio llythyr ffug i ofyn am arian; honnai unwaith eto ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. [9] Erbyn 1858, roedd yn ôl mewn llys ar yr un cyhuddiad, ac am ddwyn o dai, gan adael dyn y tu allan i'r tai rhag i rywun ei ddal; am hyn fe'i yrrwyd is efyll ei brawf yn Llys Aseis Llundain.[10] . Ym 1861, roedd o'n lletya mewn tŷ lodjin yn Stepney, Llundain, lle nodir ei fod yn briod (er nad oedd ei wraig gydag ef), ac yn gweithio fel "writer in a printing office" - roedd ei dad wedi bod yn argraffydd a chyhoeddwr yng Nghaerfyrddin.[11]
Bu farw tua 1868.[12] Y si oedd ei fod wedi marw ar stryd yn Llundain, "yn grwydryn digartref".[13]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851
- ↑ Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Brynley F. Roberts, Davies y Binder, (Trafodion Cymdeithas y Cymmrodorion, 1985), tt.225-7
- ↑ Cyfrifiad Llangyfelach, 1841
- ↑ Thomas Richards, Hen Bapurau Newydd, (Jnl. Welsh Bibliographical Soc, Cyf.V, rhif 4), tt.221-9
- ↑ Cofrestr o bersonau wedi eu hinditio yn Sir Gaernarfon, Archifdy Gwladol, HO27, ar gael ar wefan Find My Past.
- ↑ North Wales Chronicle, 3.10.1848
- ↑ Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851
- ↑ North Wales Chronicle, 3.4.1858
- ↑ London Morning News, 29.3.1858
- ↑ Cyfrifiad Stepney, Tower Hamlets, Llundain, 1861.
- ↑ Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn Y Bywgraffiadur Cymreig ac ar T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Cyf. 3, tt.227-32
- ↑ S. Rees, Gweinidogion Caersalem, (Cymru, Cyf. XXVI, 1904), t.186