Isaac Harries: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:
Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei ''Holiedydd Ysgrythurol'', ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r ''Rhodd Mam'' ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Serch hyn, fe'i ddisgrifir fel "gweinidog" yng Nghyfrifiad 1841, pan oedd yn byw yn Llangyfelach.<ref>Cyfrifiad Llangyfelach, 1841</ref> Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor. Cychwynnodd gylchgrawn gwrth-Wesleaidd uniongred, ''Twr Gwalia'' ac wedyn ''Figaro the Second'', cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol. Yn 1846, ymddangosodd yn Llys Aseis y Sir ar gyhuddiad o ddwyn, er i'r rheithgor ddatgan nad oedd ganddo achos i ymateb iddo, sef canfyddiad o "no bill".<ref>Cofrestr o bersonau wedi eu hinditio yn Sir Gaernarfon, Archifdy Gwladol, HO27, ar gael ar wefan ''Find My Past''.</ref>
Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei ''Holiedydd Ysgrythurol'', ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r ''Rhodd Mam'' ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Serch hyn, fe'i ddisgrifir fel "gweinidog" yng Nghyfrifiad 1841, pan oedd yn byw yn Llangyfelach.<ref>Cyfrifiad Llangyfelach, 1841</ref> Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor. Cychwynnodd gylchgrawn gwrth-Wesleaidd uniongred, ''Twr Gwalia'' ac wedyn ''Figaro the Second'', cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol. Yn 1846, ymddangosodd yn Llys Aseis y Sir ar gyhuddiad o ddwyn, er i'r rheithgor ddatgan nad oedd ganddo achos i ymateb iddo, sef canfyddiad o "no bill".<ref>Cofrestr o bersonau wedi eu hinditio yn Sir Gaernarfon, Archifdy Gwladol, HO27, ar gael ar wefan ''Find My Past''.</ref>


Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1851, roedd yn byw gyda'i wraig Ann a'i ferch Elizabeth yn Bishopsgate, Llundain, lle y'i disgrifir fel ''traveller in cordials''<ref>Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851</ref> - roedd felly wedi rhoi heibio'r gwaith fel gweinidog. Erbyn 1856, roedd o wedi troi at droseddu, gan ymddangos mewn Llys Ynadon yn Llundain ar gyhuddiad o ddefnyddio llythyr ffug i ofyn am arian; honodd ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. <ref>''North Wales Chronicle'', 3.4.1858</ref> Erbyn 1858, roedd yn ôl mewn llys ar yr un cyhuddiad, ac am ddwyn o dai, gan adael dyn y tu allan i'r tai rhag i rywun ei ddal; am hyn fe'i yrrwyd is efyll ei brawf yn Llys Aseis Llundain.<ref>''London Morning News'', 29.3.1858</ref> .
Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, yn ôl Rees a Thomas. Disgrifiodd ei hun fel "asiant", heblaw pan oedd am ennill rhyw fantais, pan gyfeiriodd ato ei hun fel "gweinidog anghydffurfiol". Ym mis Hydref, fe'i garcharwyd am flwyddyn gyda llafur caled am honni ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. Salem y Sir Gaernarfon oedd y pentref dan sylw yn ôl Harries, ond profwyd nad oedd (y pryd hynny beth bynnag) unrhyw bentref o'r fath enw yn y sir.<ref>''North Wales Chronicle'', 3.10.1848</ref>
 
Erbyn 1851, roedd yn byw gyda'i wraig Ann a'i ferch Elizabeth yn Bishopsgate, Llundain, lle y'i disgrifir fel ''traveller in cordials''<ref>Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851</ref> - roedd, nid yn annisgwyl, wedi rhoi heibio'i waith fel gweinidog. Erbyn 1856, roedd o wedi troi at droseddu eto, gan ymddangos mewn Llys Ynadon yn Llundain ar gyhuddiad o ddefnyddio llythyr ffug i ofyn am arian; honnai unwaith eto ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. <ref>''North Wales Chronicle'', 3.4.1858</ref> Erbyn 1858, roedd yn ôl mewn llys ar yr un cyhuddiad, ac am ddwyn o dai, gan adael dyn y tu allan i'r tai rhag i rywun ei ddal; am hyn fe'i yrrwyd is efyll ei brawf yn Llys Aseis Llundain.<ref>''London Morning News'', 29.3.1858</ref> .


Bu farw tua 1868.<ref>Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ac ar T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. 3, tt.227-32</ref>
Bu farw tua 1868.<ref>Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ac ar T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. 3, tt.227-32</ref>

Fersiwn yn ôl 08:51, 1 Ebrill 2019

Athrofa Neuaddlwyd lle hyfforddwyd Isaac Harries
Holiedydd Efengylaidd Isaac Harries

Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Isaac Harding Harries (1810-c.1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn Nyffryn Nantlle yn yr 1830au.

Fe 'i anwyd yn Sir Aberteifi[1] ac fe'i godwyd i bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy, gan fynychu Athrofa Neuaddlwyd yn Henfynyw, Ceredigion. Yn ôl yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol Tal-y-sarn a Chapel Pisgah, Carmel. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn Nhrws-y-coed a Phen-y-groes. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gymeriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros ben pobl ddiniwed am eu harian, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth."

Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831, gan P. Evans, Caernarfon. Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddodd yr un argraffydd Sylwedd pregeth, ar Datguddiad 14.6. yn mha un y gosodir allan ogoniant yr Efengyl gan Harries.[2]

Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei Holiedydd Ysgrythurol, ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r Rhodd Mam ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Serch hyn, fe'i ddisgrifir fel "gweinidog" yng Nghyfrifiad 1841, pan oedd yn byw yn Llangyfelach.[3] Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor. Cychwynnodd gylchgrawn gwrth-Wesleaidd uniongred, Twr Gwalia ac wedyn Figaro the Second, cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol. Yn 1846, ymddangosodd yn Llys Aseis y Sir ar gyhuddiad o ddwyn, er i'r rheithgor ddatgan nad oedd ganddo achos i ymateb iddo, sef canfyddiad o "no bill".[4]

Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, yn ôl Rees a Thomas. Disgrifiodd ei hun fel "asiant", heblaw pan oedd am ennill rhyw fantais, pan gyfeiriodd ato ei hun fel "gweinidog anghydffurfiol". Ym mis Hydref, fe'i garcharwyd am flwyddyn gyda llafur caled am honni ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. Salem y Sir Gaernarfon oedd y pentref dan sylw yn ôl Harries, ond profwyd nad oedd (y pryd hynny beth bynnag) unrhyw bentref o'r fath enw yn y sir.[5]

Erbyn 1851, roedd yn byw gyda'i wraig Ann a'i ferch Elizabeth yn Bishopsgate, Llundain, lle y'i disgrifir fel traveller in cordials[6] - roedd, nid yn annisgwyl, wedi rhoi heibio'i waith fel gweinidog. Erbyn 1856, roedd o wedi troi at droseddu eto, gan ymddangos mewn Llys Ynadon yn Llundain ar gyhuddiad o ddefnyddio llythyr ffug i ofyn am arian; honnai unwaith eto ei fod yn weinidog mewn dyled oherwydd iddo godi capel ac ysgolion yng Nghymru ond heb fedru sicrhau tanysgrifiadau digonol. [7] Erbyn 1858, roedd yn ôl mewn llys ar yr un cyhuddiad, ac am ddwyn o dai, gan adael dyn y tu allan i'r tai rhag i rywun ei ddal; am hyn fe'i yrrwyd is efyll ei brawf yn Llys Aseis Llundain.[8] .

Bu farw tua 1868.[9]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851
  2. Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Cyfrifiad Llangyfelach, 1841
  4. Cofrestr o bersonau wedi eu hinditio yn Sir Gaernarfon, Archifdy Gwladol, HO27, ar gael ar wefan Find My Past.
  5. North Wales Chronicle, 3.10.1848
  6. Cyfrifiad Bishopsgate, Llundain, 1851
  7. North Wales Chronicle, 3.4.1858
  8. London Morning News, 29.3.1858
  9. Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn Y Bywgraffiadur Cymreig ac ar T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Cyf. 3, tt.227-32