George Rhydero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd y Parch [[George Rhydero]], (1790- | Roedd y Parch [[George Rhydero]], (1790-1866) yn weinidog ar [[Capel Drws-y-coed (A)|gapel Drws-y-coed (A)]] rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,<ref>David Edward Pike, Blog Welldigger, [http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/03/the-chapel-that-was-crushed.html] </ref> daeth i ardal [[Dyffryn Nantlle]] ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal ar gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant.<ref>''Adysgrif Priodasau a Gostegion Sir Gaernarfon'', t.30, [https://www.findmypast.co.uk/transcript?id=GBPRS/M/896045301/1]</ref> Symudodd i weinidogaethu yn y [[Cilgwyn]] o bosibl, lle roedd [[Capel Cilgwyn (A)]] wedi ei godi ym 1842.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/6906/details/cilgwyn-independent-chapel-cilgwyn-pen-y-groeschurch-of-st-john-the-baptist-and-st-george Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref> Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf [[Capel Gosen (A), Y Groeslon]], er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4</ref> Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn [[Rhosnenan]], fel y gelwid [[Y Groeslon]] y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.52</ref> | ||
Yng Nghyfrifiad 1851, nodir ei fod yn "weinidog i'r annibynwyr', 60 oed, a bod ei wraig yn saith mlynedd yn hŷn nag ef. Ar y pryd, roedd o'n byw yn un o dai Minffordd, nid nepell o Benrhosnenan a Broniwrch, Y Groeslon, dim ond tafliad carreg o'r Gosen gwreiddiol yr oedd o wedi gwneud cymaint at ei godi.<ref>Cyfrifiad 1851, Llandwrog.</ref> | |||
Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul [[Capel Moel Tryfan (A)]].<ref>Rees a Thomas, ''op.cit., t.233.</ref> Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.<ref>''Y Dydd'', 17.12.1869</ref> | Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul [[Capel Moel Tryfan (A)]].<ref>Rees a Thomas, ''op.cit., t.233.</ref> Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.<ref>''Y Dydd'', 17.12.1869</ref> | ||
Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol. | Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol. | ||
Bu farw ar ddechrau 1866 yn Chorlton, Swydd Gaerhirfryn.<ref>Adysgrif Marwolaethau Cymru a Lloegr, chwarter 1, 1866</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 19:33, 25 Mawrth 2019
Roedd y Parch George Rhydero, (1790-1866) yn weinidog ar gapel Drws-y-coed (A) rhwng 1839 a 1845. Yn wreiddiol o Benrhyd ger Caerfyrddin,[1] daeth i ardal Dyffryn Nantlle ar adeg pan oedd eglwysi annibynnol yn amlhau. Cyn cymryd gofal ar gapel Drws-y-coed, fodd bynnag, roedd wedi priodi Ann Williams o Landdeiniolen ar 31 Ionawr 1837 yn Llanddeiniolen - er ei fod o ar y pryd yn byw yn Llantrisant.[2] Symudodd i weinidogaethu yn y Cilgwyn o bosibl, lle roedd Capel Cilgwyn (A) wedi ei godi ym 1842.[3] Erbyn 1845, cymerodd awenau wrth adeiladu capel cyntaf Capel Gosen (A), Y Groeslon, er nad yw hanes yr enwad yn ei enwi fel gweinidog ar y lle.[4] Serch hynny, mae sôn ei fod wedi bod yn ddiflino wrth geisio codi arian i godi'r capel yn Rhosnenan, fel y gelwid Y Groeslon y pryd hynny. Bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol i ddysgu darllen a rhifo, gyda Daniel Roberts, Brynengan, yn athro.[5]
Yng Nghyfrifiad 1851, nodir ei fod yn "weinidog i'r annibynwyr', 60 oed, a bod ei wraig yn saith mlynedd yn hŷn nag ef. Ar y pryd, roedd o'n byw yn un o dai Minffordd, nid nepell o Benrhosnenan a Broniwrch, Y Groeslon, dim ond tafliad carreg o'r Gosen gwreiddiol yr oedd o wedi gwneud cymaint at ei godi.[6]
Roedd ganddo fab, John Rhydero, a oedd yn gefnogol i ysgol Sul Capel Moel Tryfan (A).[7] Yn y man, symudodd John, a oedd yn deiliwr a dilledydd, i Fanceinion, gan fagu 6 o blant yn Gymry Cymraeg eu hiaith yn Great Jackson Street.[8]
Mae'n debyg i George Rhydero symud rywdro yn ystod y 1850au i Sir Fôn, o ble hanai ei wraig yn wreiddiol.
Bu farw ar ddechrau 1866 yn Chorlton, Swydd Gaerhirfryn.[9]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ David Edward Pike, Blog Welldigger, [1]
- ↑ Adysgrif Priodasau a Gostegion Sir Gaernarfon, t.30, [2]
- ↑ Cofnod o’r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol
- ↑ T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
- ↑ Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.52
- ↑ Cyfrifiad 1851, Llandwrog.
- ↑ Rees a Thomas, op.cit., t.233.
- ↑ Y Dydd, 17.12.1869
- ↑ Adysgrif Marwolaethau Cymru a Lloegr, chwarter 1, 1866