Pont Wyled: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, | Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd [[W Gilbert Williams]] o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref> | ||
Boed hynny fel y bo, codwyd y bont bresennol yn wreiddiol pan yr oedd y ffordd dyrpeg yn cael ei adeiladu tua 1810. Roedd hen bont dros yr afon, [[Pont Wen]], lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pontydd]] | [[Categori:Pontydd]] |
Fersiwn yn ôl 23:00, 12 Mawrth 2019
Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd W Gilbert Williams o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, a'r Carrog yn llifo i mewn i Afon Wyled.[1]
Boed hynny fel y bo, codwyd y bont bresennol yn wreiddiol pan yr oedd y ffordd dyrpeg yn cael ei adeiladu tua 1810. Roedd hen bont dros yr afon, Pont Wen, lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.[2]