Pont-y-Cim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:The historic bridge known as "Pont Y Cim," Pontllyfni, Gwynedd. - geograph.org.uk - 172998.jpg|bawd|350px|de]]
Pont hynafol, ger [[Pontlyfni]] yw '''Pont-y-Cim'''.
Pont hynafol, ger [[Pontlyfni]] yw '''Pont-y-Cim'''.



Fersiwn yn ôl 11:46, 7 Chwefror 2019

Pont hynafol, ger Pontlyfni yw Pont-y-Cim.

Cafodd ei chodi yn 1612, a chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Mae llythyr oddi wrthi at yr ynadon wedi goroesi ymysg papurau'r Llys Chwarter. Roedd yn cynnig talu am bont yn lle'r rhyd oedd yno cyn hynny. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn afon Llyfni oddi tani. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a'r flwyddyn 1612.

Yn 1750, gorchmynnodd y Llys Chwarter yng Nghaernarfon iddi gael ei hadnewyddu a’i lledu i sicrhau fod ceffyl a throl yn gallu mynd trosti.

Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth.

Ffynonellau

Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol .