Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansS/9</ref>
Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansS/9</ref>
Ym 1889, erlynodd Bwrdd Cadwraethwyr Ardal Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy tri o ddynion, D.Roberts, J.Thomas ac O.W.Williams, a honnai fod ganddfynt hawl i bysgota ar [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle]] gan fod y llyn yn dir comin, ac felly y tu allan i diriogaeth y Bwrdd. Cawsant eu hamddiffyn yn Llys Ymadon Caernarfon gan David Lloyd George.<ref>Archifdy Gwladol, LG/A/6/3/4; ''North Wales Observer'', Mai 1889.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 20:00, 28 Ionawr 2019

Sefydlwyd Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy yn sgîl Deddf Pysgodfeydd Eogiaid 1865[1] i reoli pysgota am eogiaid rhwng Trwyn-y-tâl ger Trefor a Phwynt Garth, Bangor, ynghyd ag aberoedd ac afonydd Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy a'u holl flaen-nentydda llednentydd. Roedd yr ardal i gynnwys hanner Afon Menai ar ochr Sir Gaernarfon o Abermenai ymlaen. Wrth i'r ardal gael ei bennu, lleisiwyd pryderon gan dirfeddianwyr fod y cynllun yn cynnwys llawer o lednentydd a oedd a hawliau pysgota cwbl breifat, a byddai hynny'n achosi trafferth mawr i fwrdd y bysgopdfa. Serch hyn, a Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough yn gadeirydd y Llys Chwareter a oedd a'r cyfrifoldeb o weithredu'r ddeddf a sefydlu'r bwrdd, fe basiwyd i dderbyn yr argymhelliad yn llawn.

Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y bysgotfa rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill bob blwyddyn.

Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.[2]

Ym 1889, erlynodd Bwrdd Cadwraethwyr Ardal Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy tri o ddynion, D.Roberts, J.Thomas ac O.W.Williams, a honnai fod ganddfynt hawl i bysgota ar Lyn Nantlle gan fod y llyn yn dir comin, ac felly y tu allan i diriogaeth y Bwrdd. Cawsant eu hamddiffyn yn Llys Ymadon Caernarfon gan David Lloyd George.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Mae copi o'r ddeddf i'w ddarllen yma:[1]
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansS/9
  3. Archifdy Gwladol, LG/A/6/3/4; North Wales Observer, Mai 1889.