Ystad Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
* tiroedd a etifeddwyd gan Catherine ap Huw ap Robert o [[Talymignedd]], [[Nantlle]];  
* tiroedd a etifeddwyd gan Catherine ap Huw ap Robert o [[Talymignedd]], [[Nantlle]];  
* tiroedd a oedd gynt yn rhan o ystad Cors-y-gedol, Dyffryn Ardudwy, a ddaeth yn eiddo i John ap Gruffydd Fychan, mab Cors-y-gedol, a briododd â Chatherine; a
* tiroedd a oedd gynt yn rhan o ystad Cors-y-gedol, Dyffryn Ardudwy, a ddaeth yn eiddo i John ap Gruffydd Fychan, mab Cors-y-gedol, a briododd â Chatherine; a
* tiroedd Plas Llanwnda, a ddaeth gydag Ann, ail wraig, y Capten Richard Garnons.<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'', (Pen-y-groes, 1872), t.29</ref>
* tiroedd [[Plas Llanwnda]], a ddaeth gydag Ann, ail wraig, y Capten Richard Garnons.<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'', (Pen-y-groes, 1872), t.29</ref>


==Hyd a lled yr ystad==
==Hyd a lled yr ystad==

Fersiwn yn ôl 18:11, 24 Ionawr 2019

Hanes yr ystad

Mae'n ymddangos i Ystad Pant Du ddod at ei gilydd, o dair cyfeiriad:

  • tiroedd a etifeddwyd gan Catherine ap Huw ap Robert o Talymignedd, Nantlle;
  • tiroedd a oedd gynt yn rhan o ystad Cors-y-gedol, Dyffryn Ardudwy, a ddaeth yn eiddo i John ap Gruffydd Fychan, mab Cors-y-gedol, a briododd â Chatherine; a
  • tiroedd Plas Llanwnda, a ddaeth gydag Ann, ail wraig, y Capten Richard Garnons.[1]

Hyd a lled yr ystad

Roedd Ystad Pant Du yn un o brif ystadau Dyffryn Nantlle hyd at y 19g., pan oedd yn eiddo i Richard Garnons, perchennog chwareli a ddatblygwyd dan ei reolaeth. Hen dŷ ac ystad yn perthyn i deuluoedd Humprhreys a Garnons oedd, wedi ei ganoli lle mae gwinllan Pant Du heddiw.

ym 1813, fe wnaed arolwg o'r ystad[2], a oedd y pryd hynny'n cynnwys 1808 acer, yn y plwyfi canlynol:

LLANBEBLIG

Llidiart Gwyn; Cae Samuel; Cae Llechfain; Maes Barcer; Pen’rallt; Pengelli

(Mae'n debyg bod yr eiddo hwn wedi dod i mewn i ystad Pant Du trwy briodas Ann merch William Wynn, Plas Llanwnda a'r Capten Richard Garnons(1735-1803))

LLANFAGLAN

Cae Eithin

LLANDWROG

Braich-y-trigwr-mawr; Cae Morfudd; Cae Iago; Cefn-y-beddau; Bedd Gwenan; Cae Halen; Pen-y-bryn; Tal-y-sarn; Blaen-y-cae; Pen-y-cae

LLANLLYFNI

Pant Du; Llwyn-onn; Tŷ Mawr; Taldrwst; Tal-y-maes; Tŷ’n Llan; Dol Ifan; Tŷn-y-pwll

LLANWNDA

Plas Llanwnda; Rhedynog-felen Fach; Felinwnda; Pen-y-cae; Tyddyn Bychan; Cae Glas; Tŷ Mawr; Pen-rhos; Cae Ciprys

(Mae'n debyg bod yr eiddo hwn wedi dod i mewn i ystad Pant Du trwy briodas Ann merch William Wynn, Plas Llanwnda a'r Capten Richard Garnons(1735-1803))

LLANDEGFAN (Ynys Môn)

Cae Cocsydd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (Pen-y-groes, 1872), t.29
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E