Owen Griffith Owen (Alafon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]],. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond symudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref [[Carmel]]. Cychwynnodd weithio yn [[Chwarel Dorothea|Chwarel lechi Dorothea]], ac wedyn aeth yn glerc i [[Chwarel y | Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]],. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond symudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref [[Carmel]]. Cychwynnodd weithio yn [[Chwarel Dorothea|Chwarel lechi Dorothea]], ac wedyn aeth yn glerc i [[Chwarel y Braich]] gerllaw. Bu'n flaenor yng [[Capel Carmel (MC)|Nghapel Carmel]] o 1874 ymlaen ac ym 1876 cychwynnodd bregethu.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.</ref> | ||
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]], cyn symud i Goleg ya Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i [[Robert Williams-Parry]].<ref>Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn ''Y Cymro'' (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3446590/8]</ref> | Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]], cyn symud i Goleg ya Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i [[Robert Williams-Parry]].<ref>Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn ''Y Cymro'' (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3446590/8]</ref> |
Fersiwn yn ôl 13:51, 7 Tachwedd 2018
Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas,. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond symudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref Carmel. Cychwynnodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glerc i Chwarel y Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen ac ym 1876 cychwynnodd bregethu.[1]
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr, cyn symud i Goleg ya Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i Robert Williams-Parry.[2]
Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffydd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd Mynachlog Ystrad Fflur a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain,1909.[3]
Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd dwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).
Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi taro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i gladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddo iddo i'w weld yno ger y giât.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma