Gorsaf reilffordd Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Eginyn newydd
Llinell 1: Llinell 1:
Gorsaf '''Y Groeslon''' oedd y drydedd orsaf ar ôl Caernarfon ar lein Caernarfon-Afon-wen, milltir a 200 llath ar ôl [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|gorsaf LLanwnda]] a bron i 2 filltir cyn cyrraedd [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|gorsaf Pen-y-groes]]. Fe'i hagorwyd ym 1867 a chan fod yr orsaf yn gwasanaethu nid pentref [[Y Groeslon]] yn unig ond hefyd pentrefi [[Carmel]], [[Y Fron]] a'r wlad o'u cwmpas, roedd yn orsaf brysur ar gyfer teithwyr. Gallai trenau basio ei gilydd yma, ac mae olion y ddau blatfform i'w gweld o hyd. Roedd y platfform yn isel ar ochr y ffordd fawr a rhaid i deithwyr wrth set o stepiau bach i gyrraedd y cerbydau'n ddiogel.
Adeilad bach unllawr wedi ei adeiladu yn null cwmni [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]] oedd yr orsaf, ond fe ddymchwelwyd yn fuan wedi i'r lein gau.
Roedd un seidin ar gyfer dadlwytho glo a nwyddau eraill. Nid oedd yno focs signalau, ac roedd liferau'r signalau a'r pwyntiau yn agored i'r tywydd ar y platfform.
Galwyd Y Groeslon yn 'Groeslon RSO', sef Swyddfa Ddidoli'r Rheilffordd - nid fod dim o eiddo'r rheilffordd yn cael ei ddidoli, ond yr holl bost a gyrhaeddai'r orsaf ar y trên ac a ddanfonid oddi yno o'r ardaloedd cyfagos.
Fe gaewyd yr orsaf gyda gweddill y lein ym 1964.
==Ffynonellau==
''LMS Branch Lines in North Wales'', W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), t.78


[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]

Fersiwn yn ôl 19:58, 19 Hydref 2017

Gorsaf Y Groeslon oedd y drydedd orsaf ar ôl Caernarfon ar lein Caernarfon-Afon-wen, milltir a 200 llath ar ôl gorsaf LLanwnda a bron i 2 filltir cyn cyrraedd gorsaf Pen-y-groes. Fe'i hagorwyd ym 1867 a chan fod yr orsaf yn gwasanaethu nid pentref Y Groeslon yn unig ond hefyd pentrefi Carmel, Y Fron a'r wlad o'u cwmpas, roedd yn orsaf brysur ar gyfer teithwyr. Gallai trenau basio ei gilydd yma, ac mae olion y ddau blatfform i'w gweld o hyd. Roedd y platfform yn isel ar ochr y ffordd fawr a rhaid i deithwyr wrth set o stepiau bach i gyrraedd y cerbydau'n ddiogel.

Adeilad bach unllawr wedi ei adeiladu yn null cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon oedd yr orsaf, ond fe ddymchwelwyd yn fuan wedi i'r lein gau.

Roedd un seidin ar gyfer dadlwytho glo a nwyddau eraill. Nid oedd yno focs signalau, ac roedd liferau'r signalau a'r pwyntiau yn agored i'r tywydd ar y platfform.

Galwyd Y Groeslon yn 'Groeslon RSO', sef Swyddfa Ddidoli'r Rheilffordd - nid fod dim o eiddo'r rheilffordd yn cael ei ddidoli, ond yr holl bost a gyrhaeddai'r orsaf ar y trên ac a ddanfonid oddi yno o'r ardaloedd cyfagos.

Fe gaewyd yr orsaf gyda gweddill y lein ym 1964.

Ffynonellau

LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), t.78