Chwarel Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi oedd '''Chwarel Tal-y-sarn''', ger pentref [[Talysarn]] heddiw.

Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno yn 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gwr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm 'Tal-y-sarn' yn 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw.  
Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno yn 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm ''Tal-y-sarn'' ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw.  

Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei ddefnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stem ac inclein yn y chwarel - arwydd addawol o'i lewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef.  

Fersiwn yn ôl 09:26, 16 Hydref 2018

Chwarel lechi oedd Chwarel Tal-y-sarn, ger pentref Talysarn heddiw.

Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir iddi fod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno yn 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm Tal-y-sarn ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw.

Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei ddefnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stem ac inclein yn y chwarel - arwydd addawol o'i lewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef.

Diriywyd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi yn 1926 - er hyn, roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)