Chwarel Tan'rallt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Chwarel Tanrallt i Chwarel Tan'rallt heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:25, 15 Hydref 2018

Chwarel lechi oedd Chwarel Tan'rallt, ger pentref Tan'rallt.

Cafodd y chwarel hon ei hagor tua 1805, ac roedd gwaith achlysurol yn cael ei gynnal yno oherwydd ei maint bychan. Roedd 87 o ddynion yn cloddio yno yn 1877, ac 89 ohonynt yn weithredol yno yn 1904 - nifer anarferol o uchel i'r cyfnod, yn ôl Dewi Tomos. Cafodd ei rhedeg ar y cyd gyda thwll/chwarel Plas Du gerllaw, a gelwir y ddau yn Dolbebin East and West. Roedd olwynion dŵr yno hefyd, ac erbyn heddiw mae'r prif dwll o dan ddŵr. Gellir gweld olion yr inclein a'r adeiladau yno hyd heddiw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)