Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref> | Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 16:46, 11 Hydref 2018
Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[1] Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glynniaid Glynllifon, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.
Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[2]