Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Un o brif gwmnïau rheilffordd Prydain oedd '''Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin''' ('London and North Western Railway' neu LNWR). Fe'i sefydlwyd...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Ychwanegu ffynhonell |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Y cwmni hwn felly oedd yn gyfrifol am yr holl gledrau a osodwyd gyda'r lled safonol o 4'8 1/2" yn Uwchgwyrfai, sef y lein o Gaernarfon heibio Dinas a Phen-y-groes ac ymlaen am Fryncir ac Afon-wen, ynghyd â [[Cangen Nantlle|Changen Nantlle]]. Aeth yr LNWR yn rhan o [[Rheilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS)|Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS)]] ym 1923, ac yn 1947 aeth yr LMS yn rhan o'r [[Rheilffyrdd Prydeinig|Reilffyrdd Prydeinig]]. | Y cwmni hwn felly oedd yn gyfrifol am yr holl gledrau a osodwyd gyda'r lled safonol o 4'8 1/2" yn Uwchgwyrfai, sef y lein o Gaernarfon heibio Dinas a Phen-y-groes ac ymlaen am Fryncir ac Afon-wen, ynghyd â [[Cangen Nantlle|Changen Nantlle]]. Aeth yr LNWR yn rhan o [[Rheilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS)|Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS)]] ym 1923, ac yn 1947 aeth yr LMS yn rhan o'r [[Rheilffyrdd Prydeinig|Reilffyrdd Prydeinig]]. | ||
==Ffynonellau== | |||
Jack Simmons and Gordon Biddle (gol.) ''The Oxford Companion to British Railway History from 1603 to the 1990s'', t.284 | |||
[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]] | [[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]] |
Fersiwn yn ôl 19:41, 18 Hydref 2017
Un o brif gwmnïau rheilffordd Prydain oedd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin ('London and North Western Railway' neu LNWR). Fe'i sefydlwyd ym 1846, ac wrth brynu cwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi a oedd â changen a redai i Gaernarfon, fe ddaeth yn un o gwmnïau rheilffordd pwysicaf yng Nghymru. Estynnwyd ei ddylanwad i Uwchgwyrfai wedi iddo gymryd Cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon drosodd yn unol â deddf seneddol ym 1870.
Y cwmni hwn felly oedd yn gyfrifol am yr holl gledrau a osodwyd gyda'r lled safonol o 4'8 1/2" yn Uwchgwyrfai, sef y lein o Gaernarfon heibio Dinas a Phen-y-groes ac ymlaen am Fryncir ac Afon-wen, ynghyd â Changen Nantlle. Aeth yr LNWR yn rhan o Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban (LMS) ym 1923, ac yn 1947 aeth yr LMS yn rhan o'r Reilffyrdd Prydeinig.
Ffynonellau
Jack Simmons and Gordon Biddle (gol.) The Oxford Companion to British Railway History from 1603 to the 1990s, t.284