Y Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr [[Isgwyrfai]] i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.  
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr [[Isgwyrfai]] i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.  


Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a [[Llanwnda]] tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys [[Plas Dinas]] hyd at [[Ffrwd Cau Du]].
Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a [[Llanwnda]] tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys [[Plas Dinas]] hyd at [[Ffrwd Cae Du]].





Fersiwn yn ôl 10:22, 28 Awst 2018

Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd A487, sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r ffordd dyrpeg trwy'r ardal.

Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.

Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma