Tudur Goch ap Grono: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 18:03, 19 Gorffennaf 2018
Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]
Roedd o'n ddisgynydd i Gilmyn Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain.
Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddi arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno[2]; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe chyfer o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. Credir iddi godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen ganrifoedd.[3] Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.[4]
Priododd ym 1352 â Morfudd ferch Hywel ap Iorwerth Fychan, ei chweched cyfnither, a chyd-aeres tiroedd Glynllifon. Er iddo gael ei ddisgrifio fel preswylydd Plas Nantlle, symudodd y teulu yn y man i Lynllifon.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
- ↑ Wikipedia[1], adalwyd 19.07.2018
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
- ↑ Gwefan Discovering Old Welsh Houses [2], adalwyd 19.07.2018
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262.