Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Monachdy Gwyn 1.jpg|bawd|300px|de]]
Mae '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Hengwm]]. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. 2, t. 45</ref> Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef [[Teulu Glynniaid Glynllifon]], efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Fersiwn yn ôl 19:57, 3 Gorffennaf 2018

Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Hengwm. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[1] Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glynniaid Glynllifon, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  2. CHC, op.cit., t.40