Seidins Tyddyn Bengam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:26, 13 Hydref 2017


Ar ôl i Rheilffordd Sir Gaernarfon agor o Gaernarfon i Afon-wen ym 1865, doedd Rheilffordd Nantlle ond yn rhedeg o'r chwareli o gwmpas Nantlle a Thal-y-sarn cyn belled â'r man lle cyfarfyddai â'r lein fawr, ger gorsaf Tyddyn Bengam. Yn y fan honno, crëwyd sidins trosglwyddo i symud y llechi o'r wagenni bach i wagenni'r lein fawr. Mae olion y glanfeydd yn dal i'w canfod o dan y prysgwydd i'r dwyrain o'r traciau hyd heddiw.