Seidins Tyddyn Bengam

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Olion y cei trawslwytho yn Nyddyn Bengam

Ar ôl i Reilffordd Sir Gaernarfon agor o Gaernarfon i Afon-wen ym 1865, doedd Rheilffordd Nantlle ond yn rhedeg o'r chwareli o gwmpas Nantlle a Thal-y-sarn cyn belled â'r man lle cyfarfyddai â'r lein fawr, ger ffermTyddyn Bengam. Yn y fan honno, gosodwyd seidins trosglwyddo lle gellid symud y llechi o'r wagenni bach i wagenni'r lein fawr. Mae olion y glanfeydd yn dal i'w canfod o dan y prysgwydd i'r dwyrain o'r hen drac (sef Lôn Eifion) hyd heddiw. Erbyn 1871, roedd lein fawr wedi ei hadeiladu trwy Ben-y-groes had at Dal-y-Sarn a chwtogwyd Rheilfordd Nantlle eto, gan ddiddymu'r angen am seidins yn Nhyddyn Bengam.