Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Arfon''' oedd enw'r cantref a rannwyd rhwng cymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Arfon''' oedd enw'r cantref a | '''Arfon''' oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau [[Uwchgwyrfai]] ac [[Isgwyrfai]] a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd 1536 pan ddileuwyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf hwyr) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen trinid Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi ae;oadu rheithgorau mawr ac ati. | ||
Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio ardal trwy'r ganrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd [[Cyngor Dosbarth Arfon]] yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanvarth llywodraeth leol. Ers 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri raniad gweinyddol [[Sir Gwynedd]] - er i Arfon ers 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, ac ddim yn cynnwys rhannau o hen blwyfi [[Clynnog Fawr]] a [[Llanllyfni]] a dim o blwyf [[Llanaelhaearn]]. | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | |||
[[Categori:Rhanbarthau gweinyddol]] |
Fersiwn yn ôl 17:14, 15 Mehefin 2018
Arfon oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd 1536 pan ddileuwyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf hwyr) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen trinid Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi ae;oadu rheithgorau mawr ac ati.
Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio ardal trwy'r ganrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Arfon yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanvarth llywodraeth leol. Ers 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri raniad gweinyddol Sir Gwynedd - er i Arfon ers 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, ac ddim yn cynnwys rhannau o hen blwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni a dim o blwyf Llanaelhaearn.