Edgar Christian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Edgar Christian''' yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu far...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Edgar Christian''' yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn. Yr oedd ei deulu wedi symud i ardal [[Clynnog Fawr]] rai blynyddoedd ynghynt ym 1919.
Mae '''Edgar Christian''' (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.
 
Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Ropedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoal yn Folkestone cyn fynd i ysgol fonedd Coleg Dwfr yn Swydd Caint ym 1924.Yr oedd ei deulu wedi symud i Fron-dirion ger [[Pontlyfni]] rai blynyddoedd ynghynt ym 1919 a threuliodd wyliau ysgol felly yn [[Uwchgwyrfai]].
 
Gadawodd Goleg Dwfr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gefnder, John Hornby (a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard, ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Rpedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ol lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Codwyd caban pren ond methodd adod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>Y brif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia.</ref>
 
Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dwfr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohoni mewn llyfr, ''Unflinching'', sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.<ref>Edgar Christian, ''Unflinching'' (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)</ref> Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 08:38, 11 Mehefin 2018

Mae Edgar Christian (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nac yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.

Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Ropedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoal yn Folkestone cyn fynd i ysgol fonedd Coleg Dwfr yn Swydd Caint ym 1924.Yr oedd ei deulu wedi symud i Fron-dirion ger Pontlyfni rai blynyddoedd ynghynt ym 1919 a threuliodd wyliau ysgol felly yn Uwchgwyrfai.

Gadawodd Goleg Dwfr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gefnder, John Hornby (a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard, ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Rpedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ol lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Codwyd caban pren ond methodd adod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.[1]

Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dwfr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohoni mewn llyfr, Unflinching, sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.[2] Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.[3]

Cyfeiriadau

  1. Y brif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia.
  2. Edgar Christian, Unflinching (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)
  3. Gwybodaeth bersonol