Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Capel Brynrodyn (MC) i Capel Bryn'rodyn (MC) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:59, 2 Mai 2018
Addoldy Methodistaidd ger pentref Dolydd yw Capel Bryn'rodyn (MC).
Agorwyd y Capel yn 1789, ar ôl dechrau achos yno ychydig o flynyddoedd yn gynharach. Yn debyg iawn i gapeli MC eraill a adeiladwyd yn yr un cyfnod, roedd prydles o 99 mlynedd ar y Capel gyda'r amod "....o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddío, darllen a dehongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r hollalluog". Roedd rhent o ddeg swllt y flwyddyn ar y capel hefyd.
Credir i'r Capel yma gynnal yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon yn 1790.
Cysylltiad gyda Chapeli eraill
Pan adeiladwyd Capel Bwlan (MC), Llandwrog yn 1815 hon oedd cangen-eglwys cyntaf Capel Bryn'rodyn. Yr ail gangen oedd Capel Rhostryfan (MC), a chodwyd Capel yno yn 1820. Yna, y trydydd cangen oedd Capel Carmel (MC), ac ymunwyd y Capel hon yn 1826 ar ôl iddi gael ei hadeiladu.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 150-157