Simon Hobley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sais oedd '''Simon Hobley''' a anwyd ym Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd o'n fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn prio...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.
Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.


Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig.
Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817, y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn [[Llanwnda]], o bosibl fferm [[Plas Dinas]] a thra yno, mi aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwn, mi briododd efo Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion [[Angharad James]], Gelli-ffrydiau, [[Nantlle]]<ref>Bu farw 25 Chwefror 1870. ''Y Drysorfa'', 1873, t.431</ref>.
 
Arferai Margaret redeg fusnes blawd ac yntau'n 36 oed, roddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Cristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol [[Graeanfryn]] yn Llanwnda, lle ymunodd ag achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]] a fe oedd i raddau helaeth y tu ôl i godi [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]], gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.
 
Bu farw 4 Awst 1879.
 
Er iddo ddod yn Sais pur i Gaernarfon (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), mi ddaeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol, gyfarwydd â'i feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. [[William Hobley]].<ref>William Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.I, tt.165-7</ref>
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 14:30, 1 Mai 2018

Sais oedd Simon Hobley a anwyd ym Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd o'n fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.[1]

Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.

Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817, y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn Llanwnda, o bosibl fferm Plas Dinas a thra yno, mi aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwn, mi briododd efo Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion Angharad James, Gelli-ffrydiau, Nantlle[2].

Arferai Margaret redeg fusnes blawd ac yntau'n 36 oed, roddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Cristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol Graeanfryn yn Llanwnda, lle ymunodd ag achos Capel Bryn'rodyn (MC) a fe oedd i raddau helaeth y tu ôl i godi Ysgoldy Graeanfryn (MC), gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.

Bu farw 4 Awst 1879.

Er iddo ddod yn Sais pur i Gaernarfon (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), mi ddaeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol, gyfarwydd â'i feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. William Hobley.[3]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan 'My heritage', [1] adalwyd 01.05.2018
  2. Bu farw 25 Chwefror 1870. Y Drysorfa, 1873, t.431
  3. William Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.I, tt.165-7