Capel Pant-glas (A): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai '''Capel Pant-glas yr Annibynwyr''' ym mhentref Pant-glas tua phen Caernarfon i'r rhes o adeiladau sydd ar ochr y ffordd fawr. Ceir disgrifiad...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Safai '''Capel Pant-glas yr Annibynwyr''' ym mhentref [[Pant-glas]] tua phen Caernarfon i'r rhes o adeiladau sydd ar ochr y ffordd fawr.
Safai '''Capel Pant-glas yr Annibynwyr''' ym mhentref [[Pant-glas]] ar dalcen ogleddol Pont Pant-glas yn wynebu'r gorllewin, wrth y rhes o adeiladau sydd ar ochr y ffordd fawr.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. 1920</ref>

Ceir disgrifiad o flynyddoedd cynnar yr achos gan Rees a Thomas:  
Ceir disgrifiad o flynyddoedd cynnar yr achos gan Rees a Thomas:  

  "Mae y lle hwn yn mhlwyf Clynogfawr, ar ochr y ffordd o Gaernarfon i Borthmadog. Agorwyd yma gapel bychan y Mawrth a'r Mercher cyntaf yn 1837. Nid yw ond achos bychan, fel llin yn mygu o'r dechreuad, ac y mae wedi cael colledion mawrion trwy fynych symudiadau. Mae y lle wedi bod bob amser mewn cysylltiad â Nazareth, ac yn mwynhau yr un weinidogaeth. Bu ei ddyled yn faich trwm am dymor hir, ac ymdrech fawr a fu raid wneyd i ddyfod yn rhydd o honi. Yr oedd Mr. Jones, Abermaw, a Mr. Ellis, Brithdir, yn gyfrifol am y ddyled, a bu raid iddynt fyned oddiamgylch i gasglu i'w thalu; a bu Mr. John Morgan yn yr adeg y bu yma, yn llawer o help tuag at hyny. Yn ei amser ef hefyd yr adgyweiriwyd pen y capel, a thrwv ffyddlondeb y chwarelwyr yn gweithio yn rhad ar hyd y nos y gwnaed llawr newydd iddo. Yma y dechreuodd Thomas Jones bregethu, yr hwn er's blynyddau bellach sydd wedi ymfudo i America."<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynol Cymru'', (Lerpwl, 1873), t.231</ref>

Erbyn map Ordnans 1913 (a gyhoeddwyd ym 1920), nodir bod y capel wedi cau.

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 14:01, 30 Ebrill 2018

Safai Capel Pant-glas yr Annibynwyr ym mhentref Pant-glas ar dalcen ogleddol Pont Pant-glas yn wynebu'r gorllewin, wrth y rhes o adeiladau sydd ar ochr y ffordd fawr.[1]

Ceir disgrifiad o flynyddoedd cynnar yr achos gan Rees a Thomas:

"Mae y lle hwn yn mhlwyf Clynogfawr, ar ochr y ffordd o Gaernarfon i Borthmadog. Agorwyd yma gapel bychan y Mawrth a'r Mercher cyntaf yn 1837. Nid yw ond achos bychan, fel llin yn mygu o'r dechreuad, ac y mae wedi cael colledion mawrion trwy fynych symudiadau. Mae y lle wedi bod bob amser mewn cysylltiad â Nazareth, ac yn mwynhau yr un weinidogaeth. Bu ei ddyled yn faich trwm am dymor hir, ac ymdrech fawr a fu raid wneyd i ddyfod yn rhydd o honi. Yr oedd Mr. Jones, Abermaw, a Mr. Ellis, Brithdir, yn gyfrifol am y ddyled, a bu raid iddynt fyned oddiamgylch i gasglu i'w thalu; a bu Mr. John Morgan yn yr adeg y bu yma, yn llawer o help tuag at hyny. Yn ei amser ef hefyd yr adgyweiriwyd pen y capel, a thrwv ffyddlondeb y chwarelwyr yn gweithio yn rhad ar hyd y nos y gwnaed llawr newydd iddo. Yma y dechreuodd Thomas Jones bregethu, yr hwn er's blynyddau bellach sydd wedi ymfudo i America."[2]

Erbyn map Ordnans 1913 (a gyhoeddwyd ym 1920), nodir bod y capel wedi cau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. 1920
  2. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, (Lerpwl, 1873), t.231