Tristian Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Tristan Evans i Tristian Evans heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:31, 16 Ebrill 2018

Cerddor o fri yw Tristian Evans, Llanllyfni.

Mae'n Gymrawd yr Ysgolion Cerdd Brenhinol – anrhydedd a ddyfarnwyd iddo wedi iddo gyflwyno datganiad o waith y cyfansoddwr Ravel yn Eglwys Ysgol Sant Paul yn Llundain, Gorffennaf 2017. Cyn hyn roedd wedi ennill gradd B.Mus (anrhydedd dosbarth cyntaf) yn 2006, M.A. a Ph.D. Mae ei waith ymchwil, gan gynnwys gwaith ar Philip Glass, y cyfansoddwr Americanaidd, wedi ennill cynulleidfa ryngwladol iddo.

Mae'n byw adref yn ei filltir sgwâr yn Llanllyfni efo’i wraig Lucy, yn agos at ei dad, Stan Evans, ac yn rhoi gwersi piano i blant lleol.[1]

Mae o hefyd wedi ymchwilio i hanes Siôn Gwynedd.

Cyfeiriadau

  1. Lleu rhif 480, Tachwedd 2016, tud. 11