Tafarn y Mount Pleasant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarnau]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]

Fersiwn yn ôl 16:33, 12 Ebrill 2018

Roedd tafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am Ros-isaf ym mhlwyf Llanwnda. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn yn ystod y 19g - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan Dinas a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth.

Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Ystyr "Ring" oedd llurguniad o "Yr Inn".

Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali, sef Bwyty'r Sopna. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan golli'r holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwytytua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma