Ffrwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Groeslon Ffrwd i Ffrwd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:13, 4 Ebrill 2018

Mae Groeslon Ffrwd yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel. Cludwyd calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid yffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon.

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol. Mae un o borthdai parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystâd Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog nepell o'r lle. Yma hefyd gwelir un darn o hen lôn sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma