Betws Gwernrhiw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Lleolir Betws | Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei chysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan. Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbytty y Plas Newydd’. Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd. | ||
Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson y cafodd ymosod arno ger [[Glan-rhyd]]. | |||
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon a'r plas yn dal i gael ei galw'n ''Goed y Betws''. | |||
Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon Odliw]] neu Ffynnon Edliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon y Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai ''odliw'' a ''gwernrhiw'' oedd yr un gair ar un adeg. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 11:18, 26 Mawrth 2018
Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei chysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan. Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbytty y Plas Newydd’. Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.
Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson y cafodd ymosod arno ger Glan-rhyd.
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon a'r plas yn dal i gael ei galw'n Goed y Betws.
Y mae ffynnon, sef Ffynnon Odliw neu Ffynnon Edliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon y Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai odliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynonellau
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)