Moduron Seiont: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Bysiau'r maes.jpg|bawd|de|200px|Bysiau ar faes Caernarfon tua 1935]] | |||
Cwmni a redai fysiau o Gaernarfon i ardal [[Pen-y-groes]] a [[Nebo]], ac yn ddiweddarach [[Nantlle]], oedd '''Moduron Seiont'''. Fe sefydlwyd y cwmni gan John Evans ym 1912, a dyma felly un o'r cwmnïau bysiau cynharaf yn yr ardal.<ref>K.A. Jaggers, ''Buses around Bangor''[http://www.jaggers-heritage.com/resources/Bangor%20Area%20Buses%20KAJ.pdf]</ref> | Cwmni a redai fysiau o Gaernarfon i ardal [[Pen-y-groes]] a [[Nebo]], ac yn ddiweddarach [[Nantlle]], oedd '''Moduron Seiont'''. Fe sefydlwyd y cwmni gan John Evans ym 1912, a dyma felly un o'r cwmnïau bysiau cynharaf yn yr ardal.<ref>K.A. Jaggers, ''Buses around Bangor''[http://www.jaggers-heritage.com/resources/Bangor%20Area%20Buses%20KAJ.pdf]</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 09:38, 28 Chwefror 2018
Cwmni a redai fysiau o Gaernarfon i ardal Pen-y-groes a Nebo, ac yn ddiweddarach Nantlle, oedd Moduron Seiont. Fe sefydlwyd y cwmni gan John Evans ym 1912, a dyma felly un o'r cwmnïau bysiau cynharaf yn yr ardal.[1]
Tua 1927 fe gymerodd y cwmni y gwasanaeth a fu gynt yn cael ei redeg gan Gwmni Omnibws Seren Dyffryn Nantlle i bentref Nantlle, wedi i'r cwmni hwnnw gael damwain a falodd ei gerbyd.[2]
Gwerthwyd gwasanaethau Moduron Seiont ar ddiwrnod cyntaf 1934 i Gwmni Crosville, a roddodd y rhif 536 ar y gwasanaeth o Gaernarfon i Nantlle,[3] a throsglwyddwyd 9 o gerbydau i'r cwmni hwnnw. Dyma restr ohonynt:
- bws Leyland, model PLSC3, 30 o seddau, rhif CC 7449, y rhoddwyd rhif fflîd 973 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1927, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1949 (gyda chorff newydd).
- bws Leyland, model PLSC3, 32 o seddau, rhif CC 8021, y rhoddwyd rhif fflîd 972 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1928, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1949 (gyda chorff newydd).
- bws Albion, model PR28, 30 o seddau, rhif CC 9592, y rhoddwyd rhif fflîd 974 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1935.
- bws Leyland, model LT1, 30 o seddau, rhif CC 8531, y rhoddwyd rhif fflîd 970 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1936.
- bws Leyland, model LT1, 30 o seddau, rhif CC 8532, y rhoddwyd rhif fflîd 971 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1936.
- bws Morris, model Y6, 20 o seddau, rhif TE 7675, y rhoddwyd rhif fflîd 975 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1930, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1935.
- bws Leyland, model TS2, 32 o seddau, rhif CC 9401, y rhoddwyd rhif fflîd 969 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1930, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1952(gyda chorff newydd).
- bws Leyland, model TS1, 32 o seddau, rhif JC 200, y rhoddwyd rhif fflîd 968 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1931, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1952 (gyda chorff newydd).
- bws Leyland, model TS3, 32 o seddau, rhif JC 1343, y rhoddwyd rhif fflîd 967 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1933, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1957.[4]
Diddorol yw sylwi ar hirhoedledd rhai o fysiau Seiont yn fflîd Crosville, ond nid oedd Crosville yn gwmni a waredai â'u bysiau'n fuan, ac i bob pwrpas, bysiau Leyland oeddynt yn eu ffafrio, fel Cwmni Seiont.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma