Ffynnon Beuno (Clynnog Fawr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Lleolir  '''Ffynnon Beuno''' ar ddiwedd pentref [[Clynnog Fawr]]. Tua 200 llath heibio [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog|Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]], cyrhaeddir y ffynnon drwy lwybr byr a grisiau oddi ochr y ffordd. Mae yna ffordd osgoi o amgylch y pentref a’r ffynnon. Gorweddir y ffynnon ar waelod tir amaeth serth. <ref>''Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland'' gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.</ref>. <ref>''The Holy Wells of Wales'' gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.</ref>
Lleolir  '''Ffynnon Beuno''' ar ddiwedd pentref [[Clynnog Fawr]]. Tua 200 llath heibio [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog|Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]], cyrhaeddir y ffynnon drwy lwybr byr a grisiau oddi ochr y ffordd. Mae yna ffordd osgoi o amgylch y pentref a’r ffynnon. Gorweddir y ffynnon ar waelod tir amaeth serth. <ref>''Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland'' gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.</ref>. <ref>''The Holy Wells of Wales'' gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.</ref>


Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, fe’i rhestrwyd ar 29 Mai 1968. <ref>https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT103&dbname=gat&tbname=core.</ref> Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, mae'r adeiladwaith gwreiddiol yn debygol o ddyfod o'r 15fed ganrif hwyr pan ailadeiladwyd [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog|Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Ychwanegwyd cerrig copa a’r manylion arall yn yr 18fed ganrif. <ref>''An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: Volume II – central, The Cantref of Arfon and the Commote of Eifionydd'' gan Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; H.M. Stationery Office (1960), tudalen 57.</ref>  
Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, fe’i rhestrwyd ar 29 Mai 1968. <ref>https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT103&dbname=gat&tbname=core.</ref> Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, mae'r adeiladwaith gwreiddiol yn debygol o ddyfod o'r 15fed ganrif hwyr pan ailadeiladwyd [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|Eglwys Sant Beuno, Clynnog]]. Ychwanegwyd cerrig copa a’r manylion arall yn yr 18fed ganrif. <ref>''An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: Volume II – central, The Cantref of Arfon and the Commote of Eifionydd'' gan Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; H.M. Stationery Office (1960), tudalen 57.</ref>  


Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr (2.6 metr x 3.9 m), chwe throedfedd o uchder. Mae'r dŵr tua 350mm o ddyfnder. Ceir feinciau ar ddwy ochr y waliau. <ref>''The Holy Wells of Wales'' gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.</ref>. <ref>''Sacred springs: in search of the holy wells and spas of Wales'' gan Paul Davis; Blorenge Books (2003), tudalen 100.</ref> Uwchben y meinciau, mae tair cilfach yn y waliau, efallai ar gyfer dillad ac eiddo'r ymdrochwr. <ref>''Wales'' gan Litellus Russell Muirhead; E. Benn (1953), tudalen 76.</ref>  
Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr (2.6 metr x 3.9 m), chwe throedfedd o uchder. Mae'r dŵr tua 350mm o ddyfnder. Ceir feinciau ar ddwy ochr y waliau. <ref>''The Holy Wells of Wales'' gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.</ref>. <ref>''Sacred springs: in search of the holy wells and spas of Wales'' gan Paul Davis; Blorenge Books (2003), tudalen 100.</ref> Uwchben y meinciau, mae tair cilfach yn y waliau, efallai ar gyfer dillad ac eiddo'r ymdrochwr. <ref>''Wales'' gan Litellus Russell Muirhead; E. Benn (1953), tudalen 76.</ref>  

Fersiwn yn ôl 10:56, 29 Ionawr 2018

Lleoliad
Plac enw yn cyfeirio at y ffynnon
Mynedfa
Meinciau a chilfachau
Giât a thir serth
Postyn marcio wrth ochr y ffynnon yn dweud: “Taith Pererin Gogledd Cymru”
Bwrdd dehongliad sy’n egluro hanes y ffynnon, mae’n weddol newydd, gosodwyd ar ôl y fandaliaeth

Lleolir Ffynnon Beuno ar ddiwedd pentref Clynnog Fawr. Tua 200 llath heibio Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, cyrhaeddir y ffynnon drwy lwybr byr a grisiau oddi ochr y ffordd. Mae yna ffordd osgoi o amgylch y pentref a’r ffynnon. Gorweddir y ffynnon ar waelod tir amaeth serth. [1]. [2]

Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, fe’i rhestrwyd ar 29 Mai 1968. [3] Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, mae'r adeiladwaith gwreiddiol yn debygol o ddyfod o'r 15fed ganrif hwyr pan ailadeiladwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog. Ychwanegwyd cerrig copa a’r manylion arall yn yr 18fed ganrif. [4]

Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr (2.6 metr x 3.9 m), chwe throedfedd o uchder. Mae'r dŵr tua 350mm o ddyfnder. Ceir feinciau ar ddwy ochr y waliau. [5]. [6] Uwchben y meinciau, mae tair cilfach yn y waliau, efallai ar gyfer dillad ac eiddo'r ymdrochwr. [7]

Ym mis Mai 2010, difrododd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal ymwelwyr oherwydd bod gweddillion y ffynnon yn ansafadwy.[8] Nawr, mae'n edrych yn lân, daclus ac wedi gofalu amdani; mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatáu mynedfa i'r ffynnon. Mae giât yn diogelu’r ffynnon, ond nid yw ynghlo. [9]

Cysegrwyd y ffynnon i Beuno Sant. [10] Mae Clynnog Fawr ar Daith Pererin Gogledd Cymru trwy Ben Llŷn i Ynys Enlli, ac roedd yn fan pwysig i bererinion aros. [11]

Yn ogystal â bod yn ffynhonnell dŵr i'r gymuned fynachaidd gerllaw, defnyddiwyd y ffynnon i wella amrywiaeth o afiechydon, clefydau a chyflyrau meddygol fel y llechau, epilepsi, nerfusrwydd, problemau llygaid ac analluedd. [12] Daethpwyd plant yn enwedig yno i iacháu; teithiodd pobl o ymhell i ffwrdd i gael triniaeth. [13]

Ar ôl i’r claf ymdrochi yn y ffynnon, daethpwyd ef i Gapel Beuno, Clynnog Fawr a’i orwedd i gysgu ar wely o frwyn ar garreg fedd Beuno er mwyn gwella salwch. [14] Defnyddiwyd y ffynnon mor ddiweddar â'r 18fed ganrif hwyr – pan ddaeth yr hanesydd Thomas Pennant yno yn yr 18fed ganrif, gwelodd ar garreg fedd Beuno “a feather bed, on which a poor paralytic from Meirionyddshire had lain the whole night”. [15]

Ychwanegwyd crafiadau o bileri Gapel Beuno, Clynnog Fawr i ddŵr sanctaidd y ffynnon i iacháu dallineb. [16] Lladdwyd heffrod wrth y ffynnon fel cynnig aberth crefyddol i Sant Beuno, (roedd hyn yn arferiad cyn-Cristnogaeth). [17]

  1. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  2. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  3. https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT103&dbname=gat&tbname=core.
  4. An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: Volume II – central, The Cantref of Arfon and the Commote of Eifionydd gan Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; H.M. Stationery Office (1960), tudalen 57.
  5. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  6. Sacred springs: in search of the holy wells and spas of Wales gan Paul Davis; Blorenge Books (2003), tudalen 100.
  7. Wales gan Litellus Russell Muirhead; E. Benn (1953), tudalen 76.
  8. http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].
  9. Sylwadau awdur yr erthygl hon drwy ymweld â’r ffynnon ym mis Mawrth 2017
  10. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  11. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  12. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  13. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  14. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  15. A Tour in Wales, MDCCLXXIII gan Thomas Pennant; Cambridge University Press (2014), tudalen 209.
  16. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  17. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.