Glesni Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bu '''Glesni Jones''' yn arweinydd [[Parti Lleu]] o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi | Bu '''Glesni Jones''' yn arweinydd [[Parti Lleu]] o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi ymgartrefu yn [[Llandwrog]] ac yn briod ag [[Osborn Jones]]. Fe'i hyfforddwyd yn athrawes a'i swydd gyntaf oedd athrawes Cerdd mewn ysgol gynradd yn Llandudno - swydd anarferol gan fod athrawon ysgolion cynradd fel arfer yn ymwneud â phob pwnc. Wedi iddi ymgartrefu yn Llandwrog bu'n gweithio am gyfnod i'w phriod, Osborn Jones, yn y Felinheli. | ||
Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch | Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch ym 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon ym 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Gerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. | ||
Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – [[Côr Arianrhod]] – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle | |||
Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – [[Côr Arianrhod]] – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle ym 1999.<ref>Allan o Aled Lloyd Davies, ''Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain'', (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000; a gwybodaeth bersonol.</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:54, 15 Rhagfyr 2025
Bu Glesni Jones yn arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi ymgartrefu yn Llandwrog ac yn briod ag Osborn Jones. Fe'i hyfforddwyd yn athrawes a'i swydd gyntaf oedd athrawes Cerdd mewn ysgol gynradd yn Llandudno - swydd anarferol gan fod athrawon ysgolion cynradd fel arfer yn ymwneud â phob pwnc. Wedi iddi ymgartrefu yn Llandwrog bu'n gweithio am gyfnod i'w phriod, Osborn Jones, yn y Felinheli.
Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch ym 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon ym 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Gerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml.
Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle ym 1999.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Allan o Aled Lloyd Davies, Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain, (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000; a gwybodaeth bersonol.