Côr Plant Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gor arall yn Eisteddfod Capel Bwlan (MC), Llandwrog fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 12.5.1908, t.6</ref> Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.<ref>''North Wales Express'', 6..." |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau | Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gôr arall yn Eisteddfod [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 12.5.1908, t.6</ref> Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.<ref>''North Wales Express'', 6.8.1909, t.7</ref> | ||
Ceir sôn am | Ceir sôn am Gôr Plant Llanllyfni yn y Wasg wedyn yn ystod 1914-15, yn arbennig mewn cysylltiad â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914.<ref>''Y Drych'', 6.8.1914, t.4</ref> Fel y digwyddodd, teimlwyd mai amhriodol fyddai cynnal eisteddfod y flwyddyn honno gyda'r rhyfel newydd ddechrau, a gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915.<ref>Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/gohirior-brifwyl-dros-ganrif-yn-ol], cyrchwyd 13.12.2025</ref> Roedd William D. Roberts yn dal i arwain y côr, ac roeddynt wedi llwyddo i ennill yng Nghwrdd Llenyddol Bethel (sef [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]]) fis Mawrth 1914, gan guro côr plant ardal [[Cilgwyn]].<ref>''Y Brython'', 12.3.1914, t.8</ref> Wedyn bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg yng Nghaernarfon, gan guro Côr Plant Caernarfon.<ref>''Y Darian'', 30.4.1914, t.4</ref> Byddai wedi bod yn siom iddynt felly nad oedd yr Eisteddfod fawr ym Mangor yn digwydd yr haf hwnnw, ond cawsant gyfle i ganu yn y [[Plygain]] yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] fore Nadolig, gan ganu "Wele cawsant y Meseia".<ref>''Y Llan'', 1.1.1915, t.3</ref> | ||
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|Orsaf Pen-y-groes]]. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny | Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|Orsaf Pen-y-groes]]. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig â'r côr yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny gan nad oes sôn bellach yn y wasg am y côr.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 11.9.1915, t.4</ref> Defnyddiodd W.D. Roberts ei dalent yn Lerpwl, ac yn fuan ym 1916 ceir ei hanes yn ennill cystadleuaeth gyda'i gôr newydd<ref>''Y Brython'', 3.2.1916, t.7</ref>: | ||
ARWAIN YN EI WAED. | ARWAIN YN EI WAED.— Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sadwrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn llu o gystadleuaethau draw ac yma. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Corau]] | [[Categori:Corau]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:49, 13 Rhagfyr 2025
Yr oedd Côr Plant Llanllyfni mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gôr arall yn Eisteddfod Capel Bwlan (MC), Llandwrog fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.[1] Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.[2]
Ceir sôn am Gôr Plant Llanllyfni yn y Wasg wedyn yn ystod 1914-15, yn arbennig mewn cysylltiad â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914.[3] Fel y digwyddodd, teimlwyd mai amhriodol fyddai cynnal eisteddfod y flwyddyn honno gyda'r rhyfel newydd ddechrau, a gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915.[4] Roedd William D. Roberts yn dal i arwain y côr, ac roeddynt wedi llwyddo i ennill yng Nghwrdd Llenyddol Bethel (sef Capel Bethel (MC), Pen-y-groes) fis Mawrth 1914, gan guro côr plant ardal Cilgwyn.[5] Wedyn bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg yng Nghaernarfon, gan guro Côr Plant Caernarfon.[6] Byddai wedi bod yn siom iddynt felly nad oedd yr Eisteddfod fawr ym Mangor yn digwydd yr haf hwnnw, ond cawsant gyfle i ganu yn y Plygain yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni fore Nadolig, gan ganu "Wele cawsant y Meseia".[7]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i Orsaf Pen-y-groes. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig â'r côr yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny gan nad oes sôn bellach yn y wasg am y côr.[8] Defnyddiodd W.D. Roberts ei dalent yn Lerpwl, ac yn fuan ym 1916 ceir ei hanes yn ennill cystadleuaeth gyda'i gôr newydd[9]:
ARWAIN YN EI WAED.— Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sadwrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn llu o gystadleuaethau draw ac yma.
Cyfeiriadau
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 12.5.1908, t.6
- ↑ North Wales Express, 6.8.1909, t.7
- ↑ Y Drych, 6.8.1914, t.4
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [1], cyrchwyd 13.12.2025
- ↑ Y Brython, 12.3.1914, t.8
- ↑ Y Darian, 30.4.1914, t.4
- ↑ Y Llan, 1.1.1915, t.3
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 11.9.1915, t.4
- ↑ Y Brython, 3.2.1916, t.7