Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
I'w barhau | I'w barhau | ||
Roedd '''Hugh Hughes''' (1824-) a fagwyd yn [[Rhosgadfan]] yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. | Roedd '''Hugh Hughes''' (1824-) a fagwyd yn [[Rhosgadfan]] yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi ddo ymuno i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno. | ||
Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng [[Rhostryfan]]a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd. | Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng [[Rhostryfan]]a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd. | ||
Fersiwn yn ôl 20:43, 4 Tachwedd 2025
I'w barhau
Roedd Hugh Hughes (1824-) a fagwyd yn Rhosgadfan yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi ddo ymuno i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.
Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng Rhostryfana Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd.
Yn ôl rhestr fedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn[1] ond yn Llanwnda yr oedd y teulu'n byw. Cafodd eu hail blentyn, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw yn Pen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).
Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon yn 1850. Ar gyfrifiad 1851 mae yna ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed wedi ei eni yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gydag ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.[2]
Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd âDavid Richards o Sir Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry aros cyn hwylio ar y Mimosa i Batagonia.[3]