Tafarn y Pembroke Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Tafarn ar brif stryd [[Pen-y-groes]] oedd y '''Pembroke Arms''', a godwyd ar dir yn perthyn i [[Ystad Bryncir]], a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai gyferbyn â [[Stag's Head Inn|thafarn y Stag]].
Tafarn ar brif stryd [[Pen-y-groes]] oedd y '''Pembroke Arms''', a godwyd ar dir yn perthyn i [[Ystad Bryncir]]. Sonnir amdani ar ddogfen adeg pennu'r degwm ym 1841.<ref>LlGC, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni</ref> Safai gyferbyn â [[Stag's Head Inn|thafarn y Stag]].

Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, cafodd y dafarnwraig ar y pryd, Jane Evans, ei dirwyo ym 1873 am werthu diod nad oedd yn fesur llawn.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.5.1873, t.5</ref> Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yno a arweiniodd at i un o'r meddwon a oedd yno gael ei drywanu gan un arall a oedd wedi meddwi'n rhacs.<ref>''North Wales Express'', 8.2.1878, t.6</ref> Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.<ref>''North Wales Express'', 22.10.1880, t.8</ref> Ni ellir bod yn siŵr pa mor brysur oedd y dafarn. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd Robert Thomas nid yn unig yn cadw tafarn y Pembroke ond hefyd yn gweithio fel chwarelwr trwy'r dydd - tybed a oedd yn rhy flinedig i gadw trefn bob amser?<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1881</ref>

Fersiwn yn ôl 10:17, 13 Hydref 2025

Tafarn ar brif stryd Pen-y-groes oedd y Pembroke Arms, a godwyd ar dir yn perthyn i Ystad Bryncir. Sonnir amdani ar ddogfen adeg pennu'r degwm ym 1841.[1] Safai gyferbyn â thafarn y Stag.

Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, cafodd y dafarnwraig ar y pryd, Jane Evans, ei dirwyo ym 1873 am werthu diod nad oedd yn fesur llawn.[2] Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yno a arweiniodd at i un o'r meddwon a oedd yno gael ei drywanu gan un arall a oedd wedi meddwi'n rhacs.[3] Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.[4] Ni ellir bod yn siŵr pa mor brysur oedd y dafarn. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd Robert Thomas nid yn unig yn cadw tafarn y Pembroke ond hefyd yn gweithio fel chwarelwr trwy'r dydd - tybed a oedd yn rhy flinedig i gadw trefn bob amser?[5]

Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi ar Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno, a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod yn agored ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd y mudiad dirwest ar ei gryfaf bryd hynny a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.[6]

Cyfeiriadau

  1. LlGC, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni
  2. North Wales Chronicle, 17.5.1873, t.5
  3. North Wales Express, 8.2.1878, t.6
  4. North Wales Express, 22.10.1880, t.8
  5. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1881
  6. Y Genedl Gymreig, 7.9.11892, t.5; North Wales Express, 16.9.1892, t.7; North Wales Chronicle, 17.9.1892, t.6