Bwlch Mawr (mynydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Irion y dudalen Bwlch Mawr i Bwlch Mawr (mynydd)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4: Llinell 4:


Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.
Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.
Dylid nodi, fodd bynnag, mai'r bwlch eang rhwng Mydydd Bwlch Mawr a'r mynyddoedd ar gychwyn [[Crib Nantlle]] yw'r bwlch mawr, ac mae'r mynydd yn cymryd ei enw o'r bwlch hwnnw.<ref>Ebeneser Thomas, ''The Bwlch Mawr Defile in the Parish of Clynnog'',  in ''Archaeologia Cambrensis'', Rhifyn XIV (Ebrill 1849), t.123</ref>


==Gwaith mwyngloddio==
==Gwaith mwyngloddio==

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:57, 28 Ebrill 2025

Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder ymysg y casgliad o fynyddoedd yn yr ardal; y copa uchaf yw'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is), sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.

Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.

Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.

Dylid nodi, fodd bynnag, mai'r bwlch eang rhwng Mydydd Bwlch Mawr a'r mynyddoedd ar gychwyn Crib Nantlle yw'r bwlch mawr, ac mae'r mynydd yn cymryd ei enw o'r bwlch hwnnw.[1]

Gwaith mwyngloddio

Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir Ystad Glynllifon y cyfeirir atynt mewn llythyrau at Arglwydd Newborough yng nghanol yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856[2]; a rhyw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ebeneser Thomas, The Bwlch Mawr Defile in the Parish of Clynnog, in Archaeologia Cambrensis, Rhifyn XIV (Ebrill 1849), t.123
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/25512
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/25778