Bachwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth.  
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth.  


Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes  Neolithig gynnar, 4200-3500CC.<ref>Gwefan Ancient Monuments, [https://ancientmonuments.uk/128075-bachwen-burial-chamber-clynnog], cyrchwyd 22.8.2019</ref>
Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb [[Cromlech Bachwen|hen gromlech]] neu simbr gladdu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes  Neolithig gynnar, 4200-3500CC.<ref>Gwefan Ancient Monuments, [https://ancientmonuments.uk/128075-bachwen-burial-chamber-clynnog], cyrchwyd 22.8.2019</ref>


Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond tua diwedd y 19g. fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond tua diwedd y 19g. fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:55, 21 Ebrill 2025

Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth.

Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes Neolithig gynnar, 4200-3500CC.[1]

Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond tua diwedd y 19g. fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[2]


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Ancient Monuments, [1], cyrchwyd 22.8.2019
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55